Ffilm Ieuenctid yn taflu goleuni ar gofrestru i bleidleisio

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Mawrth 2026
Screenshot 2026-03-13 135122

Mae pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent Fwyaf wedi cynhyrchu ffilm fer newydd yn annog eu cyfoedion i gofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Nod y prosiect, a gafodd ei ddatblygu gan aelodau o fforymau ieuenctid Torfaen, Blaenau Gwent a Chaerffili, yw egluro'r broses bleidleisio i’r rheini sy’n pleidleisio am y tro cyntaf.

Mae'r ffilm yn esbonio pam mae cofrestru yn bwysig, beth sy'n digwydd mewn gorsaf bleidleisio, ac mae’n rhoi sicrwydd i bobl ifanc bod eu pleidlais yn breifat ac yn gyfrinachol.

Mae'r gwaith yn dilyn y cydweithio diweddar rhwng aelodau'r fforwm, sydd wedi bod yn cyfarfod ledled y rhanbarth ac yn cymryd rhan mewn prosiectau ar y cyd, gan gynnwys rhannu syniadau ar sut i wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc, prosiectau gwrth-fepio, ac ymgyrchoedd amgylcheddol.

Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau wrth i’r dyddiad cau i gofrestru agosáu ar 20 Ebrill, ac mae’n annog pobl ifanc i gofrestru nawr ar www.gov.uk/register-to-vote Yng Nghymru, gall pobl gofrestru i bleidleisio o 14 oed a bwrw eu pleidlais o 16 oed.

Meddai Harry Legge, Aelod o Fforwm Ieuenctid Torfaen: “Roeddwn i wir yn mwynhau gwneud y fideo a gweithio gyda phobl ifanc o fforwmau ieuenctid eraill, gobeithiaf y bydd yn helpu pobl ifanc i bleidleisio”

Dywedodd Phill Wilson, Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc,: “Braf iawn oedd gweld pobl ifanc o'r tri awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i wneud y fideo hwn.

"Rydym yn gobeithio y bydd yn annog pobl ifanc eraill i gofrestru a chymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ar 7 Mai.”

Mae Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent Fwyaf yn dod â phobl ifanc o bob rhan o'r rhanbarth ynghyd i drafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw, a dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Bydd y ffilm yn cael ei rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor a'r gwasanaeth ieuenctid, yn rhan o ymgyrch genedlaethol Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/03/2026 Nôl i’r Brig