Glasbrint ar gyfer twf hirdymor ac adfywio

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 12 Mawrth 2026
Blueprint TILE

Mae cynllun uchelgeisiol ar gyfer twf economaidd ac adfywio cynaliadwy hirdymor wedi'i gyflwyno gan Gynghorau Torfaen a Blaenau Gwent.

Craffwyd ar y "glasbrint twf" newydd gan y  Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a'r Amgylchedd yr heddiw, a chroesawodd y pwyllgor y weledigaeth a'r cynlluniau i gynnwys pobl go iawn yn nhrawsnewidiad eu cymunedau.

Ffynnu Gyda'n Gilydd – Mae Coridor Twf Cymoedd Technegol yn weledigaeth ar y cyd i greu rhanbarth mwy ffyniannus i drigolion, cymunedau a busnesau erbyn 2035, gan ganolbwyntio ar dair thema allweddol:

  • Seilwaith a Buddsoddiad
  • Twf Busnes a Chyflogaeth
  • Pobl a Sgiliau

Mae'r glasbrint 10 mlynedd yn nodi 14 ffrwd waith ar y cyd sy'n cwmpasu cysylltedd trafnidiaeth, safleoedd strategol, cymorth busnes, mewnfuddsoddiad, sgiliau, cyflogadwyedd, creu lleoedd, canol trefi a thai.

Mae'n cynnwys fframwaith creu lleoedd i bennu blaenoriaethau datblygu ac adfywio ar gyfer trefi unigol ac ardaloedd, a denu buddsoddiad.

Bydd y cynllun yn cael ei gefnogi gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd yn dilyn penderfyniad gan y ddau gyngor i dynnu eu cynlluniau newydd unigol yn ôl, hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo.

Bydd pobl leol yn rhan lawn o'r cynlluniau, yn unol â ffordd newydd y cyngor o weithio gyda chymunedau drwy Fargen Torfaen. Megis dull Dyfodol Cwmbrân o nodi sut y dylid gwario grant Cynllun Cymdogaethau Llywodraeth y DU o £20m ar gyfer Cwmbrân.

Mae'r glasbrint yn cefnogi blaenoriaethau'r cyngor fel Cyngor Marmot a'i genhadaeth i "yrru twf economaidd cynaliadwy a chreu cymunedau bywiog, wedi'u cysylltu'n dda lle gall pobl a busnesau ffynnu".

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae hwn yn ddull gweledigaethol a fydd yn dod â busnesau, cymunedau, cyflogwyr a buddsoddwyr at ei gilydd i sicrhau twf economaidd cynaliadwy hirdymor.

"Mae ei ymestyn ar draws Torfaen a Blaenau Gwent yn cynyddu ein gallu i ddenu diwydiannau newydd, dod â buddsoddiad i mewn, ac uwchsgilio ein gweithluoedd."

Bydd ymgynghoriad ac ymgysylltiad ar y glasbrint yn digwydd dros y misoedd nesaf, a bydd cynllun cyflawni blynyddol yn cael ei ddatblygu.

Gwelwch y Glasbrint yma: chrome-extension://efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj/https://moderngov.torfaen.gov.uk/documents/g7369/Public%20reports%20pack%2012th-Mar-2026%2010.00%20Economy%20Environment%20Overview%20Scrutiny%20Committee.pdf?T=10

Diwygiwyd Diwethaf: 13/03/2026 Nôl i’r Brig