Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Chwefror 2026
Bydd Andrew Jenkins, eiriolwr iechyd meddwl, a gyrhaeddodd rownd derfynol y Traitors, yn siarad am ei daith ysbrydoledig mewn digwyddiad busnes, fis nesaf.
Bydd Andrew, a serennodd yn ail gyfres sioe deledu boblogaidd y BBC, yn sôn am ei daith, o gael ei gefn ato yn dilyn damwain car drychinebus a wnaeth ei adael mewn coma am bedair wythnos, ac yn methu cerdded - i ddod yn siaradwr ysgogol.
Bydd y ‘Ffyddlonwr a drodd yn Fradwr’ yn un o nifer o siaradwyr gwadd yn Expo Busnes Torfaen, yn Stadiwm Cwmbrân, ddydd Iau 5 Mawrth.
Bydd y digwyddiad, sydd dan ofal tîm ymgysylltu busnes y cyngor, yn cynnwys mwy na 50 o arddangoswyr ac arbenigwyr busnes, parth siaradwyr ac ardal bwrpasol i rwydweithio a chyfarfod.
Bydd holl elw’r digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim, yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth y Brenin, sef elusen sy'n helpu pobl, 11-30 oed, o gymunedau difreintiedig i feithrin hyder a sgiliau.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Bydd Expo Busnes Torfaen yn gyfle gwych i fusnesau lleol a'r rheini sydd â diddordeb mewn buddsoddi yn y fwrdeistref, ddod at ei gilydd a thrafod cyfleoedd.
"Ond mae'n bwysig cydnabod y berthynas rhwng llwyddo ym myd busnes a chynnal iechyd meddwl da. Bydd stori bersonol Andrew yn berthnasol p'un a ydych chi newydd ddechrau fel entrepreneur neu'n Brif Weithredwr profiadol."
Mae'r Expo yn agored i fusnesau o bob maint, o bob sector. I gofrestru’ch diddordeb - cliciwch: https://www.eventbrite.co.uk/e/torfaen-business-expo-busnes-torfaen-2026-tickets-1405601153889
Ariennir y digwyddiad gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.