Distyllfa arobryn yn ehangu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Ionawr 2026
thumbnail_Start up Business (1)

Mae distyllfa arobryn yn paratoi i symud i adeilad newydd ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus mewn busnes.

Lansiwyd Distyllfa Kilted Dragon yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard, yng Nghwmbrân, yn dilyn ei hadnewyddu y llynedd, a oedd yn cynnwys ychwanegu labordai newydd.

Ers hynny, mae'r cwmni wedi datblygu cyfres o wirodydd unigryw, gan gynnwys pic ar y Maen a rymiau sbeislyd wedi'u trwytho â Scottidh Tablet, ac mae wedi ennill dwy wobr - Gwobrau Torfaen a Sir Fynwy - Busnes Cychwynnol Newydd Gorau a Distyllfa/Bragdy Gorau Cymru yng ngwobrau bwyd Gorau Cymru.

Mae'r perchnogion, Jamie a Marie Boycott, sy'n cyflogi dau berson, nawr yn symud i uned fwy yn Ystâd Ddiwydiannol Springvale, lle byddan nhw’n potelu ac yn dosbarthu cynhyrchion i nifer gynyddol o gwsmeriaid ac yn cynnig teithiau a phrofiadau blasu.

Dywedodd Jamie: "Mae'r gefnogaeth gan Springboard wedi bod yn amhrisiadwy. Nid yn unig y rhoddodd le delfrydol ond hefyd y rhwydwaith a'r arweiniad yr oedd eu hangen arnom i gyflymu ein cynlluniau.

"Mae Marie a fi’n llawn cyffro i barhau i ddatblygu'r busnes, creu gwirodydd eithriadol, a chroesawu ymwelwyr ar gyfer teithiau a phrofiadau blasu yn ein lleoliad newydd."

Dywedodd y Cyng. Jo Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae Kilted Dragon wedi ffynnu ers ymuno â Springboard. Mae eu twf yn adlewyrchu cryfder ecosystem cymorth busnes Torfaen, ac rydym yn dymuno llwyddiant parhaus i Jamie, Marie, a'r tîm.”

Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard yn cynnig amrywiaeth o fannau arloesi hyblyg a chymorth busnes i fusnesau gwyddoniaeth a thechnoleg uchel eu twf.

Cafodd y ganolfan, yn Llantarnam, ei diweddaru a'i hehangu y llynedd, diolch i £600,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Roedd hefyd yn talu cost grantiau sefydlu am chwe mis a chymorth busnes mewnol parhaus.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/01/2026 Nôl i’r Brig