Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025
Mae gwaith wedi dechrau i agor darn o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Bydd darn o ddyfrffordd ym Mhontnewydd, yng Nghwmbrân, yn cael clirio ei chwyn a llaid diolch i £65k gan Gronfa Dewis yr Aelodau.
Bydd coeden fawr sydd wedi cwympo sy'n croesi'r darn rhwng Llwybr Pum Loc a Mount Pleasant Road hefyd yn cael ei thynnu i ffwrdd.
Y gobaith yw y bydd y gwaith yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r rhan honno o'r gamlas ar gyfer cerdded a beicio ac yn hwyluso defnydd yn y dyfodol ar ac o amgylch y gamlas a’r cyffiniau.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 8 Rhagfyr a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2026. Bydd llwybr halio'r gamlas yn parhau ar agor yn ystod y gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r gamlas yn ased pwysig nid yn unig ar gyfer hamdden a swyddi, ond ar gyfer llesiant a natur.
"P'un a ydych chi'n feiciwr, neu'n mwynhau cerdded ym myd natur, roedd aelodau'r cyngor yn meddwl bod hwn yn brosiect gwych i fuddsoddi ynddo."
Dywedodd Tracey Leake-Jones, Cadeirydd, Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc: "Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i weld y gwaith hwn yn cael ei wneud.
“Erbyn hyn mae argraff gan y gymuned o sut bydd y rhan nad oes modd teithio arni ar hyn o bryd, yn edrych yn y pen draw.
“Nawr gallwn ni i gyd ganolbwyntio ar y cynlluniau sydd gan y cyngor i adfer y gamlas yn y dyfodol.
“Edrychwn ymlaen at y diwrnod pan fyddwn yn gweld cychod yn defnyddio'r lociau unwaith eto".
Mae'n dilyn y newyddion y bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi £400,000 bob blwyddyn, am y pum mlynedd nesaf, fel rhan o gytundeb cyflenwi dŵr hanfodol rhwng Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Dŵr Cymru.
Bydd Glandŵr Cymru hefyd yn cyfrannu hyd at £100,000 bob blwyddyn, tra bydd trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid eraill i sicrhau cyfraniadau pellach dros y tymor hir.
Nod strategaeth camlas 10 mlynedd y cyngor yw gwella'r rhannau mordwyol presennol ac adfer rhannau o'r gamlas a oedd yn fordwyol o'r blaen.
Mae'r Gronfa Dewis Aelodau yn gynllun lle mae cynghorau yn enwebu grwpiau a phrosiectau cymunedol lleol i dderbyn cyfran o gronfa'r cyngor.