Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 4 Mawrth 2026
Yn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDThC+, mae pâr o Dorfaen yn rhannu eu stori maethu i annog mwy o bobl LHDThC+ i ystyried agor eu cartrefi i blentyn yn 2026.
Daw hyn wrth i ffigurau newydd ddangos bod nifer cynyddol o bobl LHDThC+ yn dewis maethu yng Nghymru, gyda 56 o aelwydydd maeth LHDThC+ yn genedlaethol - cynnydd o 30% o gymharu â 2024.
Mae Eleanor a Kay, o Gwmbrân, yn dweud bod dod yn ofalwyr maeth wedi bod yn "daith o anogaeth, derbyniad a chymuned".
Ar ôl maethu naw o blant ers 2024, maen nhw bellach eisiau i eraill yn y gymuned LHDThC+ wybod bod maethu yn ddewis iddyn nhw.
Dywedodd: "Pan wnaethon ni ystyried maethu am y tro cyntaf, doedden ni ddim yn siŵr a fyddai pâr o'r un rhyw fel ni yn cael y cyfle i gamu i'r rôl hon. Ond o'r alwad ffôn gyntaf, trwy bob cam o’r asesiad, a thrwy gydol ein taith maethu, fe wnaethom ddod o hyd i gymuned a agorodd ei breichiau i ni.
"Ni wynebom unrhyw rwystrau, dim ond anogaeth, derbyniad ac atgoffa pwerus bod gan bob teulu sydd â chariad i roi le mewn maethu.
"Os ydych chi'n rhan o'r gymuned LHDThC+ ac yn ystyried maethu, byddem yn eich annog i holi a dysgu mwy. Gall siarad â'r tîm maethu a gofalwyr maeth eraill fod yn gam cyntaf gwych i ddarganfod a yw maethu’n iawn i chi."
Gyda 298 o blant mewn gofal maeth yn Nhorfaen, mae Maeth Cymru Torfaen yn gobeithio y bydd y ffigurau newydd hyn yn ysbrydoli mwy o bobl LHDThC+ i holi.
Yng Ngwent yn unig, cefnogodd gofalwyr maeth LHDThC+ 15 o blant yn 2025.
Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae llawer o bobl LHDThC+ yn dod â phrofiadau bywyd unigryw a all helpu plant a phobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi ac yn gallu ffynnu.
Cyfle i ddarpar-ofalwyr maeth ymuno â thîm Maethu Cymru Torfaen ar gyfer digwyddiad Holi ac Ateb byw ar Facebookddydd Iau yma, 4pm - 6pm.
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: "Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i blant a phobl ifanc bob dydd drwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu.
"I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud ymlaen at gael eu mabwysiadu, a fydd yn rhoi’r diogelwch gydol oes sydd ei angen arnynt pan nad yw'n bosibl dychwelyd i'w teulu genedigol.
"Gyda chymaint o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy'n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddod ymlaen a dechrau sgwrs gyda'u tîm lleol heddiw."
Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadau a Maethu LHDThC+ ar-lein a thrwy Twitter -@lgbtadoptfoster a Facebook - @newfamilysocial.
Am fwy o wybodaeth am faethu, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/ . Dysgwch fwy am fabwysiadau yng Nghymru: adoptcymru.com