Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Mai 2026
Mae rhaglen ariannu newydd i gefnogi prosiectau sy'n dod â chymunedau at ei gilydd ac yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, ar agor nawr.
Mae'r Grant Cydlyniant Cymunedol ar gyfer 2026 ar gael i grwpiau cymunedol, mudiadau’r trydydd sector ac ysgolion ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen, ac mae dyfarniadau rhwng £500 a £2,000 ar gael.
Mae'r gronfa yn cefnogi prosiectau sy'n cryfhau ysbryd cymunedol ac yn helpu pobl i deimlo mwy o gyswllt â'r ardaloedd lle maen nhw'n byw.
Helpodd cynllun y llynedd i ddod ag amrywiaeth o brosiectau yn fyw, gan gynnwys Gardd Heddwch Ysgol Croesyceiliog, a gafodd £500.00 ar gyfer menter dan arweiniad disgyblion sydd wedi dod yn symbol pwerus o undod a chynhwysiant.
Cafodd yr ardd ei dylunio a'i chyflawni gan Glwb Interact yr ysgol, ac mae’n dathlu cymunedau amrywiol yr ardal trwy nodweddion fel y Polyn Heddwch sy'n arddangos sawl iaith a gwaith celf sy'n adlewyrchu diwylliannau gwahanol.
Mae disgyblion yn defnyddio’r lle’n ddyddiol erbyn hyn ac mae wedi cael cydnabyddiaeth y tu hwnt i'r ardal leol.
Meddai disgybl o Flwyddyn 8, Matilda: "Mae’n fraint bod yn aelod o’r Clwb Peacebuilder cyntaf. Mae wedi rhoi cyfle i fi creu cysylltiad ag eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, ac mae wedi fy helpu i dyfu fel unigolyn ac fel arweinydd.
"Mae gwybod bod gennym ni, hyd yn oed fel disgyblion, y gallu i siapio'r byd o'n cwmpas er gwell, yn ein grymuso.”
Meddai Pritti Davies, Cynorthwyydd Addysgu ac arweinydd y prosiect: "Mae'r blodau yn yr Ardd Heddwch yn cynrychioli treftadaeth y cenhedloedd niferus yng nghymuned yr ysgol, ochr yn ochr â threftadaeth Cymru.
"Un o'r pedair iaith a ddangosir ar y Polyn Heddwch yw'r Gymraeg, gan sicrhau bod hunaniaeth leol yn cael ei hymgorffori wrth galon y prosiect".
Mae'r fenter yn tynnu sylw at y ffordd y gall grantiau bach gael effaith barhaol, gan greu mannau ffisegol, a hefyd meithrin balchder, hyder a chysylltiadau cryfach o fewn cymunedau.
Mae hefyd yn cyd-fynd â Bargen Torfaen - ffordd newydd o weithio rhwng y Cyngor, busnesau a thrigolion i helpu i siapio gwasanaethau a chymorth mewn cymunedau, dan arweiniad cymunedau.
Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau: "Rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain sut mae'r cyllid hwn wedi helpu grwpiau lleol i ddod â phobl at ei gilydd a chryfhau’r ysbryd cymunedol.
"Nawr, yn fwy nag erioed, mae'r cysylltiadau hynny'n hanfodol, a buaswn yn annog unrhyw grŵp cymunedol, ysgol neu sefydliad trydydd sector i fanteisio ar y cyfle hwn".
Mae cronfa 2026 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, gan gefnogi syniadau newydd a phrosiectau sy’n bodoli yn barod sydd eisiau tyfu neu ddod yn fwy cynaliadwy.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Gorffennaf 2026.
Am ragor o wybodaeth neu i gyflwyno cais, ewch i wefan Cyngor Torfaen.