Ymunwch ag Ymgyrch Clec i Jac

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Mehefin 2026
Balsam bashing

Rydyn ni’n galw ar unrhyw drigolion sydd â bysedd gwyrdd - allwch chi helpu i daclo rhai o'r mannau lle mae Jac y Neidiwr yn bla, yn y Fwrdeistref?

Mae'r Cyngor yn galw ar wirfoddolwyr i ymuno ag Ymgyrch Clec i Jac eleni, gan adeiladu ar ymdrech gymunedol lwyddiannus y llynedd pan gymerodd mwy na 70 o wirfoddolwyr ran mewn 10 digwyddiad, a thynnu dros 50,000 o blanhigion.

Eleni, bydd yr ymgyrch ar waith tan fis Awst ac yn canolbwyntio ar glirio planhigion Jac y Neidiwr o ardaloedd allweddol ar draws y Fwrdeistref, gan helpu i adfer cynefinoedd ac atal difrod pellach i'r amgylchedd.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae ymgyrch Clec i Jac yn gyfle i drigolion gymryd camau syml ond ystyrlon i ddiogelu amgylchedd Torfaen, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'n ffordd wych o gyfrannu yn ystod yr Wythnos Werdd Fawr.

"Allwn ni ddim torri Jac y Neidiwr yn ôl, oherwydd mae’n aildyfu. Y ffordd orau o’i daclo yw ei dynnu allan, a dyna pam mae'r digwyddiadau hyn wedi cael eu trefnu.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad trwy Fargen Torfaen i greu cymunedau glanach, gwyrddach a chefnogi gweithredu lleol ar faterion amgylcheddol.

"Mae angen gwirfoddolwyr arnom i’n helpu i roi Clec i Jac trwy gydol yr haf, a gall pobl gyfrannu cyn lleied neu gymaint o amser ag y dymunant, o ychydig oriau i sawl diwrnod.

"Efallai eich bod chi’n wirfoddolwr profiadol neu eisiau rhoi tro ar rywbeth newydd. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae croeso i bawb fod yn rhan o'r ymdrech.

Cyflwynwyd Jac y Neidiwr i'r DU am y tro cyntaf gan fotanegwyr Fictoraidd ym 1839, ac mae wedi dod yn broblem fawr i ecosystemau lleol. Does dim ysglyfaethwyr naturiol ar ei gyfer, ac felly mae'n lledaenu'n gyflym, ac yn aml yn dominyddu glannau afonydd, ffosydd a chynefinoedd llaith.

Gall y planhigion dyfu hyd at 10 troedfedd (3 metr) mewn un tymor, ac mae pob planhigyn yn cynhyrchu cymaint â 2,500 o hadau. Yn Saesneg, rydyn ni’n cyfeirio at y rhain fel "touch-me-nots," oherwydd mae eu podiau hadau yn byrstio ar agor pan fyddant yn aeddfed, gan wasgaru’r hadau yn eang a chyflymu ei ledaeniad.

Er gwaethaf ei flodau pinc llachar, mae'r effaith ar yr amgylchedd yn sylweddol. Mae'n goresgyn planhigion brodorol, gan leihau bioamrywiaeth a niweidio bywyd gwyllt, ac mae'n marw yn ôl yn y gaeaf, gan adael glannau afonydd yn noeth ac yn agored i erydiad. Gall yr erydiad cynyddol hwn olygu bod silt yn mynd i mewn i afonydd, gan niweidio ansawdd y dŵr

Ariennir ymgyrch Clec i Jac gan Lywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am wirfoddoli yn Nhorfaen, ewch i Cysylltu Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 10/06/2026 Nôl i’r Brig