Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026
Mae mwy na 50 o ddisgyblion wedi dangos eu creadigrwydd gwyddonol gerbron busnesau lleol ac arbenigwyr yn y diwydiant mewn ffair wyddoniaeth.
Aeth disgyblion Blwyddyn 7, Ysgol Croesyceiliog a disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o ysgolion cynradd cyfagos, ati i gymryd ran yn y digwyddiad yn Ysgol Gynradd Llanyrafon ddydd Gwener.
Ymhlith y prosiectau oedd gwestai gwenyn a grëwyd drwy ddefnyddio technoleg argraffu 3D, archwiliadau rhyngweithiol ar gyfer coedwigoedd glaw, ymchwiliadau i fioleg a datblygiad dynol, ac arbrofion creadigol fel gwneud sleim a phrofion asid ac alcali.
Cefnogwyd y digwyddiad gan fusnesau a sefydliadau lleol yn cynnwys See Science, Tramshed, Cyntech, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Coleg NDGTA, HWM Global, Crane Saunders, Cummins ac Irvin GQ, a rannodd arddangosiadau technoleg a rhoi cipolwg ar yrfaoedd yn y dyfodol yn y maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – a elwir yn bynciau STEM.
Dywedodd Reuben, 11, o Ysgol Gynradd Llanyrafon: "Roedd y ffair wyddoniaeth yn lle gwych i ni rannu ein dyfeisiadau a'n creadigaethau. Fe wnaeth y cwmnïau ein hysbrydoli i anelu'n uchel a dilyn gyrfaoedd yn y dyfodol yn y maes STEM. Agorwyd ein llygaid i'r dechnoleg amrywiol sy’n cael ei ddefnyddio yn ein bywydau bob dydd.”
Ychwanegodd y pennaeth Eve Rowlands: “Roedd hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion rannu’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu gyda chynulleidfa ehangach. Fe wnaethant ddangos meddwl beirniadol cryf, creadigrwydd a hyder wrth esbonio’u syniadau.
“Rydym yn gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau, fydd yn helpu i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng ysgolion a diwydiant lleol wrth ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr ac arloeswyr.”
Roedd y ffair wyddoniaeth yn rhan o brosiect rhwng Ysgol Croesyceiliog ac Ysgol Gynradd Llanyrafon, Ysgol Gynradd Llantarnam, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ponthir, Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Gynradd Croesyceiliog, Ysgol Arbennig Crownbridge ac Ysgol Gynradd Pontnewydd i gefnogi addysg gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac annog plant i ystyried gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â STEM.
Fe wnaeth Tîm Dyheadau'r cyngor, sy'n gweithio gydag ysgolion i feithrin cysylltiadau â chyflogwyr lleol, a chyfoethogi cyfleoedd dysgu, hefyd helpu, drwy ddarparu gweithdai ar gyfer ysgolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'n ysbrydoledig dros ben i weld cymaint o bobl ifanc yn ymgysylltu â phynciau STEM mewn ffordd mor ymarferol ac ystyrlon.
“Dyma enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith, drwy ddod ag ysgolion, busnesau a'r gymuned ehangach ynghyd i gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial."