Wedi ei bostio ar Dydd Llun 8 Mehefin 2026
Yn ystod Yr Wythnos Werdd Fawr, rydyn ni’n dathlu gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol sy'n gweithio gyda ni i feithrin natur a thaclo newid hinsawdd, yn unol â Bargen Torfaen.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiadau'r Wythnos Gwneud Gwahaniaeth yr wythnos ddiwethaf.
Casglodd tri deg gwirfoddolwr 19 bag o sbwriel a chael gwared ar 8,500 planhigyn Jac y Neidiwr, gan roi cyfanswm o 53 awr i gefnogi'r amgylchedd lleol.
Mae'r wythnos - a oedd yn cyd-daro ag Wythnos Gwirfoddolwyr - yn tynnu sylw at bŵer gweithredu cymunedol, gyda gwirfoddolwyr o bob oed yn cyfrannu eu hamser a'u hegni i wella mannau gwyrdd ar draws y Fwrdeistref
Os na chawsoch gyfle i gymryd rhan - yr wythnos hon mae’r Wythnos Werdd Fawr ac mae llawer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu i gefnogi natur a thaclo newid hinsawdd.
I ddarganfod ble mae eich cyfle agosaf i wirfoddoli dros yr amgylchedd ewch i https://connecttorfaen.org.uk/
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Diolch i bawb a gymerodd ran yn Wythnos Gwneud Gwahaniaeth ac a helpodd i'w gwneud yn gymaint o lwyddiant.
"Mae mis Mehefin yn Fis Gweithredu Cymunedol, ac roedd yr wythnos ddiwethaf, a oedd hefyd yn cyd-daro ag Wythnos Gwirfoddolwyr, yn enghraifft wych o sut y gall pobl ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn.
"Roedd y digwyddiadau hyn yn enghreifftiau gwych o Fargen Torfaen ar waith. Rhoddodd y Cyngor y wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth, a chamodd ein trigolion i’r adwy i helpu i ofalu am eu hamgylchedd lleol."
Dywedodd Dave King, un o aelodau sefydlu Grŵp Afonydd Caerdydd, a fu'n gwirfoddoli mewn digwyddiadau: "Rwyf wedi gwirfoddoli'n rheolaidd ers ymhell dros 30 mlynedd gyda nifer o elusennau amgylcheddol.
“Yr hyn oedd yn fy sbarduno i ddechrau oedd ceisio gwella'r ardal lle rwy'n byw.
“Nid oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i wneud popeth rydyn ni ei eisiau, felly os ydym am i rywbeth wella mae angen i ni gamu ‘mlaen a cheisio gwneud hynny ein hunain.
“Nawr fy mod i'n trefnu llawer o weithgareddau gwirfoddol, rwy’n cael cymaint o wefr, nid yn unig wrth weld y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i’n hamgylchedd naturiol, ond hefyd wrth weld pobl yn gwneud ffrindiau ac yn ymweld ag ardaloedd nad oedden nhw hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli.
“Yn gyffredinol, byddwn yn argymell gwirfoddoli mewn rhyw ffurf i bawb. Os nad yw eich profiad cyntaf yn gweithio, rhowch gynnig ar rywbeth arall. Unwaith y byddwch chi'n dod o hyd i'ch gweithgaredd delfrydol ni fyddwch yn edrych yn ôl.”
Roedd digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf yn cynnwys lansio ymgyrch Clec i Jac yn Llyn Cychod Cwmbrân, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd codi sbwriel a thynnu planhigion Jac y Neidiwr yng Ngwarchodfa Natur Leol Northfields a Thirpentwys.
Roedd y digwyddiadau i gyd yn agored i'r cyhoedd ac wedi’u cefnogi gan staff y Cyngor, gan ei gwneud hi'n hawdd i bobl gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd a chymryd camau cadarnhaol dros natur.
Bydd ymgyrch Clec i Jac ar waith tan fis Awst, gan roi mwy o gyfleoedd i drigolion gyfrannu at warchod bioamrywiaeth leol.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Clec i Jac, ewch i https://getinvolved.torfaen.gov.uk/
Ariannwyd y digwyddiadau codi sbwriel gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac ariannwyd digwyddiadau Clec i Jac gan Lywodraeth Cymru trwy'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.