Wedi ei bostio ar Dydd Llun 8 Mehefin 2026
Mae arolygwyr Estyn wedi canmol cynnydd staff a disgyblion yn Uned Cyfeirio Disgyblion y Cyngor.
Disgrifiwyd yr uned, sydd â thri safle ac sy'n darparu ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed sydd ddim yn gallu mynychu addysg brif ffrwd, fel un yr oedd angen gwelliant sylweddol arni yn dilyn arolygiad ym mis Rhagfyr 2024.
Roedd yr arolygwyr yn cydnabod bod nifer y disgyblion yn yr uned wedi mwy na dyblu ers ei harolygiad blaenorol, ac roedd cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion ag anawsterau emosiynol sylweddol, ochr yn ochr â'r rheiny a oedd wedi'u gwahardd yn barhaol neu mewn perygl o gael eu gwahardd yn barhaol.
Fodd bynnag, dywedon nhw fod angen gwelliannau yn y cyfraddau presenoldeb; yn ansawdd a chysondeb yr addysgu a’r dysgu; yn atebolrwydd arweinwyr ar bob lefel i yrru gwelliant; ac yn y trefniadau i ddisgyblion gael llais a chyfleoedd i arwain.
Fe fu arolygwyr yn ymweld â'r uned eto ym mis Ebrill a disgrifiwyd gwelliant sylweddol yn yr uned.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, dywedwyd: "Ers yr arolygiad craidd, mae arweinwyr yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion wedi gweithio'n effeithiol ochr yn ochr â'r partner gwella ysgolion, yr awdurdod lleol a'r pwyllgor rheoli.
"Mae'r partneriaethau hyn wedi cryfhau atebolrwydd ac wedi gyrru gwelliant ar draws sawl maes yng ngwaith yr Uned Cyfeirio Disgyblion, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, presenoldeb disgyblion ac ymddygiad."
Meddai’r Pennaeth, Sarah Pugh: "Rwy' wrth fy modd fod Estyn wedi tynnu Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yn swyddogol o'r categori statudol Gwelliant Sylweddol. Mae'r penderfyniad ffurfiol hwn yn adlewyrchiad uniongyrchol o'r ymroddiad, yr angerdd a'r gwytnwch di-baid a ddangoswyd gan ein cymuned gyfan yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion trwy gydol y broses fonitro drylwyr hon.
"Rydw i am fynegi fy niolchiadau dwysaf i'n staff anhygoel, ein pwyllgor rheoli, yr awdurdod lleol, a'n rhieni a'n gofalwyr cefnogol.
"Yn anad dim, rydw i eisiau canmol ein disgyblion gwych, y mae eu cynnydd a'u balchder yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion yn disgleirio trwy bopeth maen nhw'n ei wneud. Mae gadael y categori hwn yn garreg filltir wych, ond nid dyma ein cyrchfan derfynol; dyma'r sylfaen gadarn y byddwn yn parhau i adeiladu dyfodol disglair, diogel ac uchelgeisiol arni ar gyfer Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen."
Meddai'r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn ddiolch i'r tîm yn Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen, y gwasanaeth addysg a'r disgyblion a'u teuluoedd am ymateb mor agored a chadarnhaol i argymhellion Estyn.
"Mae'n hanfodol bwysig fod gan ddisgyblion sydd ddim yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd ddewis diogel arall i’w meithrin, lle gallant ffynnu ar eu cyflymder eu hunain a chynllunio ar gyfer eu dyfodol."
Darllen yr adroddiad: chrome-extension://efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj/https://estyn.gov.wales/app/uploads/2026/05/Monitoring-report-Alternative-Tuition-Ty-Glyn-PRU-2026.pdf