Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr, rydyn ni'n dathlu ein cymuned wych o wirfoddolwyr. Rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau i ffrwyno pŵer gwirfoddoli yn rhan o Fargen Torfaen. Heddiw, rydyn ni’n dathlu gwirfoddolwyr ifanc sy'n gwneud gwahaniaeth ac yn dysgu sgiliau allweddol.
Dechreuodd Katie Rees, 24, o Bont-y-pŵl, fel gwirfoddolwr gyda Llyfrgell Cwmbrân ym mis Mawrth, gan ddod yn un o'r gwirfoddolwyr cyntaf i gefnogi'r gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref.
Mae hi'n un o bump gwirfoddolwr yn y llyfrgell sy'n gweithio fel detholwyr stoc, gan ddefnyddio proffiliau cwsmeriaid i greu detholiadau o lyfrau a llyfrau llafar wedi'u curadu'n ofalus, sydd wedyn yn cael eu cludo i gartrefi cwsmeriaid.
Dywedodd Katie: "Rwy'n mwynhau darllen ac rydw i wrth fy modd yn pacio pethau gartref i'w gwerthu ar-lein, felly roedd y cyfle hwn yn gweddu’n berffaith â fy niddordebau. Mae'n fy ysgogi i ddod allan o'r tŷ bob wythnos i gymdeithasu mwy, ac rwy'n mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned".
Mae'r gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref yn opsiwn sy’n galluogi trigolion i gael llyfrau wedi’u cludo i’w cartref am ddim pan na fyddant yn gallu mynd i’r llyfrgell oherwydd salwch, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu.
Bydd Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Torfaen hefyd yn recriwtio tri gwirfoddolwr Darllen i Mi cyn bo hir, a byddant yn ymweld â chartrefi pobl i rannu buddion therapiwtig darllen gyda’n gilydd, yn ogystal â gwirfoddolwr TG i gefnogi ymholiadau digidol yn Llyfrgell Cwmbrân.
Os oes diddordeb gennych mewn gwirfoddoli gyda'r llyfrgell, cadwch lygad ar Cysylltu Torfaen am y cyfleoedd diweddaraf.
Gwirfoddolwyr chwarae yn torri record
Mae’r nifer uchaf erioed o bobl ifanc wedi cofrestru gyda Phrosiect Gwirfoddoli Ieuenctid Gwasanaeth Chwarae Torfaen i helpu i estyn rhaglenni chwarae allan dros gyfnod gwyliau'r haf.
Maen nhw’n cynnwys dros 200 o wirfoddolwyr newydd sydd wedi camu ymlaen, mwy na 50 o wirfoddolwyr sy'n dychwelyd, ac 18 o Gynorthwywyr Chwarae rhwng 13 a 15 oed, i gyd yn cyfrannu at un o'r rhaglenni gwirfoddoli ieuenctid mwyaf yn y rhanbarth.
Bydd y gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr chwarae profiadol ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi Gwersylloedd Bwyd a Hwyl, Gwersylloedd Chwaraeon a Gweithgareddau, cynlluniau chwarae Mynediad Agored, a sesiynau chwarae a seibiant arbenigol - i blant ag anghenion ychwanegol.
Meddai Ruby Baiton, sy'n 17 oed ac sy'n dychwelyd am ail flwyddyn o wirfoddoli, "Fe wnes i fwynhau gwirfoddoli i Chwarae Torfaen oherwydd rydw i wedi meithrin perthynas â llawer o'r plant ac wrth fy modd yn eu gweld yn magu hyder ac yn gwneud ffrindiau newydd. Trwy wirfoddoli rydw i wedi magu hyder ac wedi cael llawer o hyfforddiant. "
Oherwydd y galw mawr, mae'r broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen eleni wedi cau ac mae yna restr wrth gefn.
Gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo fforwm
Rae Carter, 15, o Bont-y-pŵl, yw gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol Fforwm Ieuenctid Torfaen.
Mae hi wedi bod yn aelod o'r Fforwm ers y tair blynedd ddiwethaf ac wedi meddwl am y rôl er mwyn helpu i hyrwyddo'r gwaith maen nhw'n ei wneud.
Meddai Rae: "Sylweddolais fod angen i’r fforwm ieuenctid gael eu lleisiau allan yno’n fwy ac roedd angen iddynt allu dangos i'r cyhoedd beth roedden nhw'n ei wneud, a dangos y wyneb tu ôl i enwau’r aelodau hefyd."
Gallwch ddilyn Fforwm Ieuenctid Torfaen ar Instagram. I ymuno â Fforwm Ieuenctid Torfaen, siaradwch â'ch ysgol uwchradd neu cysylltwch â philip.wilson@torfaen.gov.uk
Gwirfoddolwyr yn helpu plant i nofio
Mae deg o wirfoddolwyr ifanc yn helpu plant i ddysgu nofio, diolch i raglen wirfoddoli sy'n cael ei rhedeg gan Halo Leisure Torfaen.
Maen nhw wedi cofrestru i fod yn Gynorthwywyr yn y Dŵr yn Stadiwm Cwmbrân, Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl a Chanolfan Hamdden Fairwater, ochr yn ochr â hyfforddwyr nofio a'r tîm achubwyr bywyd.
Mae'r fenter yn agored i wirfoddolwyr o bob oed, ond mae'n arbennig o boblogaidd ymhlith pobl ifancach sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Mae gan Halo Leisure Torfaen gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer Cyfeillion y Gampfa a’r Ddesg Flaen hefyd. Rhoddir hyfforddiant, gwisg a gostyngiadau i wirfoddolwyr. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i wirfoddoli, ewch i wefan Halo Leisure.
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd eraill i wirfoddoli ar Cysylltu Torfaen.