Gwirfoddoli gyda'n Gilydd ar gyfer Yr Help Llaw Mawr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
The Big Help Out

Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr, rydyn ni’n dathlu ein cymuned wych o wirfoddolwyr sy'n helpu i ddod â Bargen Torfaen yn fyw. Heddiw, rydyn ni’n sôn am y grwpiau gwirfoddol sy'n dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.

Mae pum grŵp gwirfoddol wedi cytuno i gydweithio'n agosach yn rhan o Gynghrair Gwirfoddoli newydd Pont-y-pŵl.

Mae Cyfeillion Tref Pont-y-pŵl, Cyfeillion Parc Pont-y-pŵl, Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, ArtRegen a Fforwm Mynediad Torfaen wedi dod at ei gilydd i gydweithio'n fwy ar brosiectau sy'n gwella canol y dref ac yn ei harddu.

I lansio’r gwaith, bydd y grwpiau’n cynnal digwyddiad Help Llaw Mawr a Chinio Mawr ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 2 Mehefin, gyda chefnogaeth Cynghrair Gwirfoddol Torfaen.

Bydd gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Codi sbwriel ar draws Tref a Pharc Pont-y-pŵl
  • Chwynnu ym Maes Parcio Amgueddfa Torfaen
  • Glanhau arwyddion
  • Clirio llwybrau
  • Twtio cloddiau a mannau gwyrdd yn gyffredinol

Mae croeso i unrhyw wirfoddolwyr gwrdd yn y Bandstand ym Mharc Pont-y-pŵl am 10am. Darperir cinio gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Cofrestrwch yma

Meddai Aimi Morris, Prif Weithredwr Cynghrair Gwirfoddol Torfaen: "Mae Cynghrair Gwirfoddol Torfaen wedi bod yn falch o gefnogi grwpiau lleol i ddod at ei gilydd i archwilio sut y gallant gydweithio'n well er budd Pont-y-pŵl.

"Mae'r gynghrair sy'n dod i'r amlwg yn adlewyrchu cyd-ymrwymiad i gryfhau cysylltiadau cymunedol, annog gwirfoddoli, a chyflawni newid cadarnhaol trwy weithredu ar y cyd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymunedau: "Mae'r gynghrair yn enghraifft o Fargen Torfaen ar waith. Mae'r Fargen yn ffrwyno pŵer cymunedau i adnabod nodau cyffredin a’u cyflawni ochr yn ochr â sefydliadau fel y Cyngor a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen, i helpu ein cymunedau i fod yn iachach ac yn fwy cydnerth."

Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiadau cenedlaethol Yr Help Llaw Mawr a’r Cinio Mawr gael eu cynnal ar yr un penwythnos.

Nod yr Help Llaw Mawr yw annog pobl i roi tro ar wirfoddoli a nod y Cinio Mawr yw dathlu bwyd, cyfeillgarwch a hwyl.

Cewch lond lle o gyfleoedd gwirfoddoli ar Cysylltu Torfaen.

Os hoffech ragor o wybodaeth am Fargen Torfaen, dewch draw i'n Pentref Bargen Torfaen yn Nigwyddiad Mawr Cwmbrân, ddydd Sadwrn 13 Mehefin, a’r Parti yn y Parc, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/06/2026 Nôl i’r Brig