Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr, rydyn ni'n dathlu ein byddin wych o wirfoddolwyr! Dewch draw i gwrdd â rhai o'r rheiny sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau – ac i ddarganfod sut allwch chi gymryd rhan - yn ein Pentref Bargen Torfaen cyntaf.
Dim ond wythnos sydd i fynd tan ddigwyddiad mawr cyntaf yr haf - Digwyddiad Mawr Cwmbrân!
Mae disgwyl i filoedd o bobl alw heibio i Lyn Cychod Cwmbrân, ddydd Sadwrn 13 Mehefin, ar gyfer y wledd o adloniant sydd wedi’i threfnu gan Gyngor Cymuned Cwmbrân.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys hwyl i'r teulu, gweithgareddau chwaraeon, prosiectau natur, marchnad nwyddau arbenigol, stondinau bwyd a cherddoriaeth fyw rhwng hanner dydd a 5pm.
Bydd y Pentref Bargen Torfaen cyntaf erioed yno hefyd, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am ffordd newydd y Cyngor o weithio ochr yn ochr â chymunedau a phartneriaid fel Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a Halo Leisure, i wella bywydau pobl ar draws y Fwrdeistref.
Yn ogystal, bydd yna...
- Lolfa gymunedol, lle gallwch chi gwrdd â gwirfoddolwyr
- Gweithgareddau sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned, gan gynnwys bws troed i'r safle o Stadiwm Cwmbrân ac ymgyrch godi sbwriel wirfoddol
- Gweithgareddau iechyd a llesiant gan Halo Leisure
- Cyfleoedd NEWYDD am brentisiaethau gyda’r Cyngor
- Clwb ieuenctid gwib gyda gweithgareddau
- Llyfrgell a gweithgareddau i blant
- Cyngor am ailgylchu ac ailddefnyddio
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein Pentref Bargen Torfaen yn helpu i ddod â'n ffordd newydd o weithio yn fyw i bobl. Bydd yn gyfle i drigolion siarad â thimau a grwpiau a chael syniadau am sut y gallant wneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau.
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Cymuned Cwmbrân am adael i ni ddod â'n Pentref Bargen i Ddigwyddiad Mawr Cwmbrân, ac i'r mudiadau a fydd yn ymuno â ni ar y diwrnod, gan gynnwys Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Halo Leisure, Circulate a Wastesavers."
Ychwanegodd Gareth Davies, clerc Cyngor Cymuned Cwmbrân: "Mae Cyngor Cymuned Cwmbrân yn falch o arwain y diwrnod allan gwych hwn yng Nghwmbrân. Mae'r digwyddiad yn mynd yn fwy ac yn well bob blwyddyn ac yn ôl yr adborth mae’n ddigwyddiad y mae'r gymuned yn ei fwynhau a'i gefnogi. Rydyn ni wedi ychwanegu gwasanaeth parcio a theithio eleni hefyd, felly mae’n haws fyth i bobl ddod heb orfod dod â'r car."
Bydd y gwasanaeth parcio a theithio ar waith o'r safle bysiau ym maes parcio Asda a Ffordd Llanfrechfa, rhwng hanner dydd a 5.30pm. Gallwch barcio yn unrhyw un o’r meysydd parcio yng nghanol tref Cwmbrân.
Bydd Pentref Bargen Torfaen ar ochr Caeau De y llyn cychod, ger y linell wibio yn yr ardal chwarae i blant.
Bydd ymwelwyr â Phentref Bargen Torfaen yn cael cyfle am ddim i ennill gwobr o dri mis o Aelodaeth gyda Halo Leisure.
Bydd Pentref Bargen Torfaen hefyd yn y Parti yn y Parc ym Mhont-y-pŵl, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.
Am ragor o wybodaeth am Fargen Torfaen: https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/y-fargen-torfaen
Am gyfleoedd i wirfoddoli, ewch i Cysylltu Torfaen.