Fforwm Iau yn enghraifft o bŵer disgyblion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
Untitled design - 2026-06-04T140131.431

Cyfarfu aelodau o Fforwm Iau y Cyngor yr wythnos hon i arddangos y gwaith y mae eu cynghorau ysgol wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth deg disgybl o ysgolion cynradd George Street, Griffithstown, Penygarn a New Inn at ei gilydd yn Siambr y Cyngor, yn y Ganolfan Ddinesig, ym Mhont-y-pŵl, ddydd Iau, ac fe fuon nhw’n pleidleisio dros y prosiect yr oeddent am ei daclo’r flwyddyn nesaf.

Fe fu’r disgyblion yn bwrw’u pleidlais gan ddefnyddio papurau pleidleisio a blwch pleidleisio ac yna cawsant eu cyfrif cyn cyhoeddi'r enillydd.

Prosiect Cyngor Ysgol Gynradd New Inn i gyflwyno ardaloedd chwarae a llesiant cynhwysol ar gyfer amser egwyl oedd yr enillydd. Byddan nhw nawr yn gweithio gyda'r ysgolion eraill i'w helpu i gyflwyno eu hardaloedd eu hunain.

Meddai disgybl o Flwyddyn 5, Alexis: "Fe ddechreuon ni trwy glirio sied ar gyfer rhaffau sgipio ac yna agor cwtsh llyfrau. Fy hoff elfen yw'r cwtsh llyfrau oherwydd mae yna lawer o bethau y gallwch chi roi tro arnynt."

Meddai Harley o Flwyddyn 4: "Mae'r cwtsh llyfrau yn boblogaidd iawn ac roedd plant yn ciwio i fynd i mewn. Mae gennym ni derfyn amser o 10 munud nawr er mwyn i bawb gael tro i mewn yno."

Ychwanegodd Zoe o Flwyddyn 5: "Rwy'n falch iawn fod yr ysgolion eraill wedi dewis ein prosiect. Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud yn dda iawn ac efallai y gall yr ysgolion eraill roi syniadau i ni ar gyfer ei wella."

Meddai Jaia, disgybl o Flwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Griffithstown: "Dewisais brosiect Ysgol New Inn. Roeddwn i'n hoffi eu cwtsh llyfrau a'r elfennau gwahanol oedd ganddyn nhw yno."

Ychwanegodd Johnel o Flwyddyn 6: "Rwy'n credu y bydd yn boblogaidd iawn yn ein hysgol ac yn cael effaith fuddiol ar ddisgyblion."

Y prosiectau eraill oedd:

  • Ysgol Gynradd Penygarn: cyfleoedd i wella iechyd corfforol a meddyliol i bawb.
  • Ysgol Gynradd Griffithstown: annog plant i fwyta'n iach amser egwyl ac amser cinio ac i yfed llawer o ddŵr.
  • Ysgol Gynradd George Street: annog mwy o blant i gerdded i'r ysgol neu barcio a chamu.

Yn ystod cyfarfod y fforwm, cymerodd y disgyblion ran mewn sesiwn am Senedd Cymru a chael cyfle i flasu myffins a fflapjacs lemwn a blwberis newydd, a fydd ar fwydlenni ysgolion cynradd o fis Medi.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'n wych clywed sut mae aelodau'r Fforwm Iau wedi bod yn rhannu'r gwaith y mae eu cynghorau ysgol wedi'i wneud. Mae'n ffordd wych o ddysgu oddi wrth ein gilydd a sicrhau bod eu barn yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

"Mae ein fforymau ieuenctid iau a hŷn, Cynghrair Ieuenctid Torfaen a diwrnodau meddiannu blynyddol y Cyngor i gyd yn anelu at roi cyfle i ni wrando ar yr hyn sydd gan y plant a’r bobl ifanc i'w ddweud."

Cynhelir Fforwm Ieuenctid Iau nesaf Torfaen yn ystod tymor yr hydref.

Mae'r fforwm yn cael ei dreialu gydag ysgolion cynradd yng nghlwstwr Ysgol Gorllewin Mynwy am ddwy flynedd. Bydd yn cael ei adolygu’r flwyddyn nesaf gyda'r bwriad o'i ymestyn i ysgolion eraill.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/06/2026 Nôl i’r Brig