Fferm Gymunedol Greenmeadow yn Cyhoeddi Rhaglen yr Haf

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
Highland Cow

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn dathlu miri i’r teulu ar y maes wrth iddi gyhoeddi rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer yr haf.

Bydd gan y gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr yn Nhorfaen themâu sy'n newid yn wythnosol trwy gydol gwyliau'r haf, o themâu’r Gorllewin Gwyllt a’r Syrcas i Hwyl yr Ŵyl, gyda gweithgareddau am ddim ac am dâl yn cael eu cynnal bob wythnos er mwyn i deuluoedd eu mwynhau.

Meddai Jac Griffiths, Rheolwr Fferm Gymunedol Greenmeadow:"Rydyn ni wedi llunio rhaglen gyffrous iawn o ddigwyddiadau ar gyfer yr haf i gyd, gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae gennym bopeth o saethyddiaeth a thaflu bwyelli i driciau syrcas a hebogyddiaeth, yn ogystal â'r holl gyfleoedd gwych i gwrdd â'ch hoff anifeiliaid fferm a mwynhau Chwarae Antur dan do ac awyr agored."

Ers i'r gyrchfan agor fis Medi diwethaf, mae'r Fferm wedi bod yn cynyddu nifer yr anifeiliaid a'r profiadau i ymwelwyr. Mae'r Fferm yn cynnig cyfuniad o weithgareddau difyr, gyda chyfleoedd Chwarae Antur dan do ac allan yn yr awyr agored, reidiau tractor a siawns i glosio at yr anifeiliaid, yn ogystal â phrofiadau ffermio mwy trylwyr. Mae Ffermwr am y Dydd yn rhoi cyfle i blant droi eu llaw at dasgau fferm poblogaidd ac mae parch at yr amgylchedd yn thema gref sy'n rhedeg trwy'r safle. Mae yna sesiynau chwilota pyllau dŵr am ddim, sesiynau gwneud bomiau hadau, ac mae garddwr y Fferm wedi creu dôl o flodau gwyllt i gefnogi pryfed sy’n peillio.

Eleni, mae'r Fferm wedi croesawu dau o Wartheg yr Ucheldir newydd, o'r enw Blossom a Bracken, ac wedi datblygu mannau caeedig y gallwch gerdded trwyddynt gyda’r cwningod a’r geifr. Ar wahân i anifeiliaid y Fferm, mae Greenmeadow yn gartref i dri lama, nifer o ymlusgiaid llai, moch gini a llygod mawr y gall ymwelwyr gwrdd â nhw yn y Gornel Cwtshys.

Yn ystod gwyliau'r haf fe fydd y rhaglen yn newid yn wythnosol, o’r Gorllewin Gwyllt i’r Syrcas ac Anturiaethau Chwedlonol. Mae amrywiaeth o weithgareddau galw-heibio am ddim; arddangosfeydd hebogyddiaeth, sgiliau syrcas ac amser stori, yn ogystal ag ychwanegiadau y gellir eu harchebu fel sioeau a chwrdd ag anifeiliaid.

Mae Rhaglen Fferm Gymunedol Greenmeadow ar gyfer yr Haf yn cynnwys:

  • Wythnos 1 (o 18 Gorffennaf) - Dathlu dechrau amser traddodiadol yr haf ym Mhrydain gyda gweithgareddau anifeiliaid a cherddoriaeth ychwanegol.
  • Wythnos 2 (o 25 Gorffennaf) - Gwisgwch eich esgidiau cowboi, rydyn ni'n dathlu holl ryfeddodau’r Gorllewin Gwyllt gyda saethyddiaeth, taflu bwyelli ac alawon gwlad.
  • Wythnos 3 (o 1 Awst) - I lawr yn y Glyn, ymunwch â ni am straeon chwedlonol a chreaduriaid direidus.
  • Wythnos 4 (o 8 Awst) - Byddwch yn glown am ychydig gyda Jitterbug Circus, gan gynnwys gweithgareddau am ddim a sioeau y gallwch archebu tocynnau ar eu cyfer.
  • Wythnos 5 (o 15 Awst) - Arddangosfeydd am ddim gan Falconry UK, yn llenwi’r awyr gydag arddangosiadau adar ysglyfaethus anhygoel.
  • Wythnos 6 (o 22 Awst) - Gŵyl hwyl yr haf gyda cherddoriaeth fyw trwy gydol yr wythnos.
  • Wythnos 7 (o 29 Awst) - Penwythnos olaf o hwyl yr haf gyda'r Toodle Pips.

Gallwch archebu’ch tocynnau ar gyfer yr haf nawr, ac mae manylion llawn y gweithgareddau, y dyddiadau a’r prisiau ar gael yma: www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/06/2026 Nôl i’r Brig