Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4 Mehefin 2026
Mae yna gyfle i ddisgyblion sianelu eu Joel Ashton neu Frances Tophill mewnol a thrawsnewid tir eu hysgol.
Mae rhaglen Ysgolion Natur newydd yn cael ei threialu gan ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Padre Pio, ym Mhont-y-pŵl, sy'n gweithio gyda thîm Planed Iach, Pobl Iach y Cyngor i droi tir yr ysgol yn hafan sy'n gyfeillgar i natur.
Byddant yn edrych ar y planhigion a’r anifeiliaid sy'n byw ar dir yr ysgol neu gerllaw, sut mae'r lle hwnnw’n cael ei ddefnyddio, a sut y gallant gynyddu bioamrywiaeth, er enghraifft trwy blannu mwy o goed, creu cartrefi i fywyd gwyllt ac ychwanegu nodweddion i reoli dŵr glaw.
Yna byddant yn cael cyfle i dorchi llewys a gwneud y newidiadau cyn ymchwilio i’r newidiadau sydd wedi digwydd ac adrodd amdanynt.
Bydd ysgolion sy'n rhan o’r prosiect yn cael plac Ysgol Natur i'w arddangos.
Meddai Dawn Taylor, Cydlynydd Eco, Ysgol Gynradd Padre Pio: "Fel arweinydd eco yn ein hysgol, rwy'n falch dros ben o rannu lansiad ein prosiect bioamrywiaeth newydd - menter sydd wedi'i chynllunio i drawsnewid ein tir yn gynefin ffyniannus i fywyd gwyllt lleol.
"Mae'r prosiect hwn yn fwy nag uwchraddio amgylcheddol; mae'n brofiad dysgu ymarferol sy'n grymuso ein disgyblion i ddeall pwysigrwydd diogelu'r byd naturiol.
"Trwy greu cartrefi newydd ar gyfer pryfed, adar a mamaliaid bach, rydyn ni'n rhoi cyfle i'r plant weld â’u llygaid eu hunain sut y gall hyd yn oed gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth ystyrlon.
"Mae ein disgyblion wedi bod yn rhan o’r gwaith o blannu blodau sy'n gyfeillgar i bryfed sy’n peillio, er mwyn monitro'r rhywogaethau sy'n dechrau ymgartrefu yno. Mae eu brwdfrydedd wedi ein hysbrydoli, ac mae'n dangos cymaint y mae pobl ifanc yn poeni am ddyfodol ein planed.
"Rydyn ni’n gyffrous i barhau i dyfu'r prosiect hwn ac i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar ein bywyd gwyllt a chymuned ein hysgol."
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Drwy roi cyfle i ddisgyblion ddylanwadu ar amgylcheddau ysgol gwyrddach a mwy cyfeillgar i natur, rydyn ni’n cefnogi bioamrywiaeth a hefyd yn helpu pobl ifanc i deimlo mwy o gysylltiad â'r byd o'u cwmpas.
"Mae'n ein hysbrydoli wrth weld disgyblion a staff y Cyngor yn gweithio gyda'i gilydd i greu mannau sydd o fudd i fywyd gwyllt a llesiant, ac edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael yn Ysgol Gynradd Padre Pio a thu hwnt."
Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth gydag ysgolion sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y man.
Bydd ysgolion sy'n cymryd rhan yn cael plac Ysgol Natur i'w arddangos.
Mae'r fenter yn rhan o brosiect ehangach Planed Iach, Pobl Iach a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.