Enwebwch eich arwr cymunedol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4 Mehefin 2026
Untitled design - 2026-06-01T163441.526

Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr yr wythnos hon, rydyn ni’n dathlu ein byddin o wirfoddolwyr rhyfeddol! Rydyn ni’n manteisio ar rym gwirfoddoli yn rhan o Fargen Torfaen. Os hoffech ddiolch i rywun sy'n gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, beth am eu henwebu am wobr gymunedol...

Mae cyfle i enwebu nawr ar gyfer Gwobrau Cymuned a Gwirfoddolwyr blynyddol Torfaen sy’n cael eu cynnal am y chweched tro eleni. Noddir y gwobrau gan sefydliadau a busnesau lleol i ddathlu cyfraniad anhygoel unigolion, grwpiau a gwirfoddolwyr, a chydnabod yr effaith y maent yn ei chael yn ein cymunedau.

Y llynedd, enwebwyd 100 o bobl a grwpiau - gan gynnwys Bois Y Bryn, a enillodd y wobr Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, ac Ymddiriedolaeth Camlesi Mynwy, Aberhonddu a'r Fenni, a enillodd y wobr amgylcheddol.

Gallwch enwebu person neu sefydliad ar gyfer un o 12 gwobr:  

  • Gwirfoddolwr sy’n oedolyn
  • Gwirfoddolwr Ifanc
  • Ymddiriedolwr y flwyddyn
  • Gwirfoddolwr /Grŵp Chwaraeon
  • Gwirfoddolwr Iechyd
  • Gwirfoddolwr / Grŵp Amgylcheddol
  • Calon y Gymuned
  • Busnes y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr/Grŵp Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth
  • Grŵp Plant a Phobl Ifanc
  • Arweinydd Cymunedol
  • Cymydog y Flwyddyn

Dywedodd Aimi Morris, Prif Weithredwr Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, sy'n trefnu'r gwobrau:  "Gwirfoddolwyr yn aml yw'r grym sy’n gefni i gymunedau cryfach, mwy cysylltiedig, ac mae'r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i ddathlu eu hymroddiad, cydnabod eu heffaith, ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan.

"Mae eu caredigrwydd, eu hymrwymiad a'u hysbryd cymunedol yn helpu i wneud Torfaen yn lle gwell i fyw ac maent yn hanfodol i gyflawni Bargen Torfaen." 

Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein cymunedau. Maent yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd, cefnogi'r rhai mewn angen a gwella ein hamgylchedd. 

"Mae'r gwaith sy'n cael ei arwain gan ein cymunedau a'r fyddin o wirfoddolwyr, yn ategu at y gefnogaeth a geir gan y cyngor a gwasanaethau cymorth eraill."

Bydd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cymuned a Gwirfoddolwyr Torfaen yn cau ddydd Gwener 31 Gorffennaf. Bydd panel o feirniaid yn dewis tri o bob categori ar gyfer y rownd derfynol a chyhoeddir yr enillwyr ym mis Medi.

Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Parkway ddydd Gwener 16 Hydref.

Cyngor Torfaen sy’n noddi gwobr Cymydog y Flwyddyn.

 

Nominations | Torfaen Voluntary Alliance
Diwygiwyd Diwethaf: 04/06/2026 Nôl i’r Brig