Farm thanks volunteering community

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 1 Mehefin 2026
Untitled design - 2026-05-27T132742.839

Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr yr wythnos hon, rydyn ni’n dathlu ein byddin o wirfoddolwyr rhyfeddol! Rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau i fanteisio ar angerdd a grym gwirfoddoli yn rhan o Fargen Torfaen.

Mae dros ddau gant o wirfoddolwyr wedi cofrestru i helpu yn Fferm Gymunedol Greenmeadow ers iddi ailagor llynedd. 

Mae’r gwirfoddolwyr, sy’n amrywio o bobl sydd newydd adael yr ysgol i bobl wedi ymddeol, yn helpu’n rheolaidd gydag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys garddio, gofal anifeiliaid, gwasanaethau cwsmeriaid a chynnal digwyddiadau.

Mae hyn wedi galluogi rhai o’r gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau, sydd wedi arwain at gyfleoedd gwaith yn y fferm, ac wedi caniatáu i staff y fferm ganolbwyntio arwaith mwy arbenigol.

Dywedodd Steve Allen, o Gwmbrân, sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn y fferm ers Medi: "Rydym yn deulu sy’n caru natur ac anifeiliaid. Roeddwn i’n ffodus i wneud gwaith gwirfoddol ym Medi llynedd, felly roeddwn i’n gallu treulio amser yn fy hoff amgylchedd mor aml ag yr oeddwn yn dymuno.

"Mae’r gwobrwyon rwy’n eu cael o weithio gydag anifeiliaid a bod ymhlith pobl brofiadol yn werth mwy nag arian, gan fy mod i nawr yn dysgu am arddio, anifeiliaid fferm a gwaith cynnal a chadw wrth i fi weithio. Mae’r tîm yma’n gweithio’n galed ac yn hwyl bod yn eu cwmni, ac mae pob diwrnod yn ddiwrnod gwahanol."

Dywedodd rheolwr y fferm, Jac Griffiths: "Dydyn ni ddim yn tanbrisio gwaith ein

gwirfoddolwyr yn y fferm.  Mae eu cyfraniad yn cael ei nodi, ac mae ei werth yn anferth.

"Rydw i am ddiolch yn fawr i bob gwirfoddolwr sydd wedi ein cefnogi. Hebddyn nhw, yn ôl ym Medi 2025, ni fyddem wedi bob yn barod i agor.

"Mae ein cymuned wirfoddol yn enghraifft wych o sut y gallwn gyflawni pethau mawr trwy gyd-dynnu, a dyna beth yw ystyr Wythnos Gwirfoddolwyr a Bargen Torfaen."

I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, mae gan y fferm amrywiaeth o gyfleoedd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ystyried buddion iechyd a lles gwirfoddoli.

Gallwch gofrestru i baentio, gwneud gwaith tirweddu neu wella’r clostiroedd o ddydd Mawrth i ddydd Gwener yr wythnos yma. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Volunteers Week at Greenmeadow Community Farm  

Gallwch hefyd ddod o hyd i amrywiaeth eang o gyfleoedd i wirfoddoli trwy fynd at wefan Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/06/2026 Nôl i’r Brig