Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30 Ionawr 2026
Gwaith yn dechrau ar brosiect atal llifogydd a fydd yn rhoi hwb i natur.
Mae gwaith i greu gwlyptir newydd i helpu i liniaru’r llifogydd yng ngogledd y Fwrdeistref ar y gweill.
Heddiw, fe fu’r Aelod Seneddol lleol Nick Thomas-Symmonds yn ymweld â Cheunant Elgam, ym Mlaenafon, i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yn rhan o raglen newydd y Cyngor, Planed Iach, Pobl Iach.
Mae'r ceunant, sy'n cario dŵr o'r ucheldir trwy goetir a glaswelltir, wedi dioddef llifogydd yn ystod stormydd diweddar, gan achosi pryder i drigolion lleol.
Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar gyfer ardal y gwlyptir, a chafwyd sgyrsiau gydag aelodau'r gymuned yn barod. Mae gwaith gwirfoddoli wedi dechrau ar y safle hefyd.
Mae cam nesaf y prosiect yn cynnwys mireinio'r cynlluniau mewn partneriaeth â'r gymuned leol.
Disgwylir i waith ymarferol i greu'r pyllau a'r byndiau, i gadw’r dŵr, ddechrau yn yr hydref, ar ôl tymor bridio’r adar.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae diogelu ein cymunedau rhag llifogydd a gwella mynediad at fyd natur ar yr un pryd yn flaenoriaethau allweddol i ni.
"Mae Ceunant Elgam yn fan gwyrdd annwyl iawn, ac mae'r prosiect hwn yn gyfle go iawn i ni ei wneud yn iachach i fywyd gwyllt ac yn fwy dymunol i drigolion.
Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda phobl leol wrth i'r cynlluniau ddatblygu."
Meddai Nick Thomas-Symonds AS: "Rwy'n falch iawn fod Cyngor Torfaen wedi cael £808,000 o gyllid gan Gronfa
Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella mynediad i fyd natur yn ein Bwrdeistref.
"Roedd yn dda gweld manteision y cyllid hwn yng Ngheunant Elgam a fydd yn helpu i liniaru effeithiau llifogydd a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal.
Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith ar y cyd ar y prosiect hwn a fydd o fudd mawr i Flaenafon."
Y llynedd, cafodd y Cyngor £800,000 gan raglen Trefi a Dinasoedd Natur, sef partneriaeth sy'n ceisio gwella mannau gwyrdd trefol er mwyn i fwy o bobl allu mwynhau natur yn eu cynefin.
Nod prosiect tair blynedd Planed Iach, Pobl Iach yw gwella ein mannau gwyrdd a’u cysylltu, helpu pobl i gael mynediad i fyd natur, a meithrin partneriaethau cryf i gefnogi newid amgylcheddol hirdymor
Roedd Cyngor Torfaen yn un o ddau yng Nghymru i gael y cyllid, diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England, a gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru.