Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30 Ionawr 2026
Mae disgyblion ysgol gynradd wedi llunio capsiwl amser i nodi 25 mlynedd ers i Flaenafon ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Creodd disgyblion Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon waith celf, myfyrdodau ysgrifenedig, a negeseuon personol am fywyd ym Mlaenafon, i'w hychwanegu at y capsiwl, a gladdwyd ar dir yr ysgol.
Gwnaed y prosiect mewn partneriaeth â Chyngor Tref Blaenafon a gafodd y syniad yn y lle cyntaf, a chafwyd y capsiwl dur gan gwmni lleol GOS Engineering.
Meddai disgybl o Flwyddyn 4, Isobella: "Cawson ni gymaint o hwyl yn gwneud y lluniau a'r cerddi i’w rhoi yn y capsiwl amser. Fe wnes i lun o fy hoff beth ym Mlaenafon".
Ychwanegodd ei chyd-ddisgybl, Carter: "Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau edrych ar yr holl bethau hyfryd pan maen nhw'n ei balu i fyny."
Meddai Nikki Westwood, Cydlynydd Eco yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon: "Roedd llais y disgyblion wrth galon y prosiect hwn. Llwyddodd i ddyfnhau dealltwriaeth y plant am ein treftadaeth leol, a’u hannog hefyd i feddwl am gynaliadwyedd, cyfrifoldeb cymunedol, a'r gwaddol y byddant yn ei adael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'r profiad dysgu dilys hwn yn cysylltu'n berffaith â nodau ein rhaglen Eco ‘Sgolion ac roedd yn gymorth i gryfhau ymdeimlad y disgyblion o le a dinasyddiaeth."
Daeth y prosiect i fwcwl gyda digwyddiad i ddathlu yn yr ysgol, lle cafodd y plant gydnabyddiaeth am eu cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, ochr yn ochr â maer Blaenafon, Nathan Matthews, a chynghorwyr.
Fe fu’r disgyblion hefyd yn recordio podlediad gyda Chynghorwyr y Dref i drafod y prosiect capsiwl amser. Gwrandewch ar y podlediad a chwiliwch am ragor o wybodaeth ar wefan yr ysgol: https://bhvcprimary.com/eco-council/
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg yng Nghyngor Torfaen: "Mae'r prosiect hwn wedi rhoi cyfle gwych i ddisgyblion fyfyrio ar eu cymuned, rhannu eu lleisiau a chreu rhywbeth ystyrlon y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei ailddarganfod.
"Mae'n enghraifft wych o sut mae dysgu a threftadaeth leol yn dod at ei gilydd i gyfoethogi profiadau disgyblion. Ac mae'n ein hatgoffa fod disgyblion yn colli mas pan fyddan nhw ddim yn yr ysgol - nid ar ddysgu yn unig, ond ar gyfleoedd gwerthfawr fel hyn."
Rhoddwyd statws UNESCO i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ym mis Rhagfyr 2000 ac mae'n un o 32 o safleoedd UNESCO yn y DU.
Mae'r ysgol hon nawr yn cynllunio ei phrosiectau nesaf, sy'n cynnwys gosod tai ar gyfer bwystfilod bach a chamera bywyd gwyllt ar dir yn Charles Street gerllaw.