Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 28 Ionawr 2026
Mae dau wirfoddolwr newydd wedi camu i’r adwy i gefnogi rhaglen Ewch am Dro Torfaen, gan sicrhau bod grwpiau cerdded poblogaidd y Fwrdeistref yn parhau i ffynnu.
Sue Daintith, 68 oed, a Caroline Jenkins, 70 oed, y ddwy yn drigolion lleol o Bont-y-pŵl, yw'r aelodau diweddaraf o'r gymuned i ennill eu cymhwyster fel tywyswyr teithiau cerdded.
Maent wedi ymuno â thîm o 15 o wirfoddolwyr sy’n helpu i arwain teithiau cerdded wythnosol yn ardaloedd Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân, gan helpu trigolion i fod yn fwy actif ac i ddod i gysylltiad â’i gilydd.
Meddai Sue, a oedd yn arfer cerdded gyda'r grŵp ac sydd wedi dychwelyd i gynnig ei chefnogaeth: "Ymunais â'r teithiau cerdded er mwyn teimlo'n fwy diogel i ddechrau, gan fy mod wedi cael fy rhybuddio am gerdded ar fy mhen fy hun yn rhywle anghysbell. Roedd y grŵp mor gyfeillgar a chefnogol ac roeddwn i’n teimlo bob tro bod rhywun yno i fy nghefnogi.
"Des i’n arweinydd cerdded am fy mod i eisiau helpu. Mae yna ddigon o bobl sy'n awyddus i gerdded bob tro, ond nid oes rhywun sy'n barod i arwain bob tro."
Tîm Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd y Cyngor sy’n rhedeg Ewch am Dro ac mae'n cynnig dau fath o daith gerdded wedi'u teilwra at alluoedd gwahanol:
- Teithiau cerdded hirach sydd rhwng tua 3 a 6 milltir
- Teithiau cerdded iechyd sydd rhwng 1 a 2 filltir i'r rheiny sy'n newydd i gerdded neu sy'n ceisio cael eu ffitrwydd yn ôl
Mae tywyswyr teithiau cerdded newydd yn cael hyfforddiant Tywysydd Teithiau Cerdded, ynghyd â hyfforddiant cymorth cyntaf a diffibriliwr, a chefnogaeth barhaus gan y tîm.
Y llynedd, dathlodd y prosiect ei ben-blwydd yn 20 oed trwy ail-greu ei daith gerdded gyntaf erioed o Faes Parcio'r Foxhunter ym Mlaenafon i biler triongli Mynydd Blorens.
Ers ei lansio, mae'r rhaglen wedi croesawu dros 2,000 o gyfranogwyr, gydag 20 o gerddwyr, ar gyfartaledd, yn ymuno â grwpiau bob wythnos.
Cynhelir y teithiau cerdded o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac maen nhw’n cynnig ffordd gyfeillgar, hygyrch i drigolion wella eu hiechyd, mwynhau mannau gwyrdd lleol a chwrdd â phobl newydd.
Meddai Lynne Mattravers, Swyddog Gwella Iechyd y Cyngor: "Cyn y pandemig roedd gennym tua 30 o dywyswyr teithiau cerdded, felly mae gweld aelodau newydd a hirsefydlog yn camu ymlaen yn wych.
"Dros y blynyddoedd, mae'r buddion i iechyd wedi bod yn anhygoel, gyda rhai cerddwyr yn dod oddi ar feddyginiaeth ar gyfer diabetes, ac mae un wraig a gafodd wybod efallai na allai gerdded eto, nawr yn ymuno â ni dair gwaith yr wythnos.
"Mae hefyd wedi bod yn achubiaeth i lawer sydd wedi colli anwyliaid, gan eu helpu i ddod o hyd i gyfeillgarwch a chefnogaeth pan fo angen hynny arnynt fwyaf."
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Mae Ewch am Dro yn enghraifft wych sy’n dangos Bargen Torfaen ar waith, gyda phobl leol a'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr i gefnogi cymunedau iachach a mwy cysylltiedig.
"Wrth i ni edrych ymlaen, byddwn yn parhau i greu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan, meithrin cyfeillgarwch a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau."
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â thaith gerdded neu ddod yn dywysydd gwirfoddol gael rhagor o wybodaeth trwy fynd i Ewch am Dro Torfaen ar Cysylltu Torfaen, neu trwy gysylltu â'r tîm Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd ar 01633 628936 | 07908214499.