Y Cynulliad Dinasyddion yn trafod cynlluniau Bargen Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 20 Ionawr 2026
Untitled design (72)

Fe fu trawstoriad o bobl yn cymryd rhan yn y Cynulliad Dinasyddion cyntaf ddydd Sadwrn i ystyried Bargen Torfaen, sef contract cymdeithasol newydd gyda thrigolion.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniadau gan y Prif Weithredwr, Stephen Vickers ac Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt am sut y bydd Bargen newydd Torfaen yn helpu'r Cyngor i ateb y galw cynyddol ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol yn y Fwrdeistref.

Meddai’r Cynghorydd Hunt: "Y Fargen yw'r man cychwyn ar gyfer cyflwyno cyd-weledigaeth ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy cydnerth - un lle mae pob trigolyn yn cael ei rymuso i ffynnu ac mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu trechu.

"Mae'r Fargen yn feddylfryd newydd ar gyfer y Fwrdeistref gyfan. Bydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd yn y dyfodol.

"Bydd hyn yn nodi newid i ffwrdd o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau yn ein cymunedau a bydd yn gofyn am berthynas newydd gyda thrigolion a phartneriaid sy'n adeiladu ar y cryfderau a'r capasiti mewn cymunedau."

Clywodd y Cynulliad hefyd gan yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a groesawai’r ffordd newydd o weithio, ac Aimi Morris o Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, a sylfaenydd grŵp o’r enw Torfaen Litter Champions, Ron Ford, a fu’n siarad am waith gwirfoddolwyr cymunedol.

Trafododd y 33 aelod o’r Cynulliad Dinasyddion sut y gellid datblygu themâu Bargen Torfaen, sef balchder yn ein bro, cyfrifoldeb cymdeithasol, cymunedau cysylltiedig a rhannu pŵer.

Gofynnwyd iddynt hefyd beth fyddai'n grymuso cymunedau i weithredu ar y newidiadau yr oeddent am eu gweld.

Bydd y Cynulliad Dinasyddion yn cwrdd eto ddydd Sadwrn 31 Ionawr. Gallwch gwrdd â rhai o aelodau'r cynulliad trwy glicio isod.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y Fargen newydd i Dorfaen yn dilyn mesurau eraill a gymerwyd gan y Cyngor i fynd i'r afael â'r heriau yn sgil cyllidebau sy’n lleihau a chynnydd yn y galw.

Y llynedd, daeth y Cyngor yn awdurdod lleol ffederal – y cyntaf i wneud hynny - gyda Blaenau Gwent, a daeth y ddau yn gyd- Gynghorau Marmot cyntaf Cymru.  

Mae cyfarfodydd y Cynulliad Dinasyddion hefyd yn cael eu cynnal ym Mlaenau Gwent i ddatblygu Bargen Blaenau Gwent ar wahân.

Cewch ragor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer Bargen Torfaen trwy fynd i Cymryd Rhan Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/01/2026 Nôl i’r Brig