Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Ionawr 2026
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Greenmeadow wedi bod yn ymarferol gydag ynni adnewyddadwy yr wythnos hon trwy gydosod pecyn Solar Explorer a darganfod sut mae ynni solar yn cael ei gynhyrchu.
Mae'r ysgol yn un o chwech yn Nhorfaen sydd wedi ariannu'r pecyn newydd, gyda hyfforddiant gan Solar for Schools - un o brif ddarparwyr atebion ynni solar ar gyfer addysg.
Yn ystod y gweithdy, dysgodd aelodau o Bwyllgor Eco’r ysgol sut mae trydan yn cael ei gynhyrchu a thrafodon nhw ddewisiadau amgen glân fel ynni gwynt, solar a dŵr.
Gan weithio mewn grwpiau bach, neilltuwyd rolau peirianneg a chydosod i ddisgyblion ac adeiladwyd y pecyn Solar Explorer o'r dechrau.
Defnyddion nhw fwlb golau i efelychu golau'r haul, gan weld yn uniongyrchol sut mae panel solar yn troi egni golau yn drydan trwy bweru LED a chydrannau eraill.
Bydd disgyblion nawr yn gallu mynd â'r Pecyn allan yn yr awyr agored, gan ddefnyddio’r un broses a ddysgwyd ganddynt yn y dosbarth ond wedi'i bweru gan olau haul go iawn.
Dywedodd Finley, disgybl Blwyddyn 6: "Roeddwn i wrth fy modd yn helpu i adeiladu'r teclyn! Roedd yn hwyl dysgu am yr holl offer gwahanol rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd a faint o watiau y mae eu hangen arnynt i weithio."
Ychwanegodd Lois, disgybl Blwyddyn 5: "Fy hoff ran oedd rhoi cynnig ar y pecyn solar mewn gwahanol fathau o olau. Roedd yn cŵl iawn gweld sut y mae’n dal i allu gwneud egni!"
Bydd y Pwyllgor Eco nawr yn rhannu eu dysgu gyda disgyblion a staff ar draws yr ysgol, gan alluogi defnyddio'r pecyn ym mhob gwers.
Dywedodd Claire Moses, Pennaeth Ysgol Gynradd Greenmeadow: "Yn Greenmeadow, rydym yn hynod falch o'n Pwyllgor Eco rhagweithiol ac angerddol, sy'n cyfarfod bob wythnos i helpu i wneud ein hysgol mor gyfeillgar i'r amgylchedd â phosibl.
"Roedd hyfforddiant Solar Explorer heddiw’n hynod addysgiadol ac fe roddodd ddysgu STEM gwerthfawr, ymarferol i'n disgyblion sy'n dod â'r cwricwlwm cenedlaethol yn fyw. Mae wedi bod yn gyfle gwych iddyn nhw weld cynaliadwyedd ar waith yn y byd go iawn."
Mae Ysgol Gynradd Greenmeadow yn un o 14 o ysgolion yn Nhorfaen sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun Buddsoddi i Arbed yn 2023, a oedd yn cynnwys gosod capasiti 12kW o baneli solar ar do'r ysgol.
Ers hynny, mae'r ysgol wedi lleihau ei defnydd o ynni ar y grid 27%, gan arbed tua £8,300 mewn defnydd o ynni.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark: "Mae gweithdai fel y rhain yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i'n pobl ifanc i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol, gan eu helpu i ddeall sut y gall dewisiadau bob dydd a thechnoleg arloesol wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
"Mae dyddiau ysgol fel hyn wir yn dod â'n hymgyrch presenoldeb ysgol Ddim Mewn, Colli Mas yn fyw, ac yn ategu’r neges bod dod i'r ysgol yn wirioneddol bwysig, mae pob dydd yn y dosbarth yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu, cymryd rhan a ffynnu."
Ymhlith yr ysgolion eraill sydd wedi prynu'r pecynnau mae Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Blenheim Road a Choed Efa, Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands.