Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Ionawr 2026
Mae cyfanswm o £14.16m yn mynd i gael ei fuddsoddi mewn hen safleoedd tomenni glo yn y Fwrdeistref, diolch i gynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf ac mae'n cynnwys £7.7m tuag at Brosiect Adfywio’r British, yn Nhal-y-waun.
Ddoe, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, fod cyfanswm o £80m yn cael ei roi i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiectau sy'n amrywio o fân-waith cynnal a chadw i gynlluniau cyfalaf mawr.
Wrth wneud y cyhoeddiad ar hen safle gwaith haearn y British, meddai Mr Irranca-Davies: "Mae'r buddsoddiad cyntaf o’r maint hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddiogelwch tomenni glo.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel ond, ar ben hynny, mae’n fuddsoddiad enfawr yng nghymunedau’r meysydd glo, i dyfu'r economi ac i greu swyddi yn llawer o'r lleoedd y mae eu hangen fwyaf arnynt.
"Ar un adeg roedd gan Gymru arbenigedd ar gloddio a oedd yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd – nawr mae gennym gyfle i arwain eto, y tro hwn wrth ddelio â gwaddol y gwaith cloddio hwnnw, yn ystod argyfwng hinsawdd."
Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Mae'r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych – bydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i wella diogelwch ar y safle hwn, sy’n bwysig dros ben i’r gymuned leol.
"Bydd gan y prosiect fanteision ehangach o ran diogelu bioamrywiaeth bwysig a lliniaru'r risg o lifogydd yn yr ardal leol. Mae yna botensial hefyd ar gyfer buddion economaidd yn y dyfodol, a fydd yn cael eu harchwilio yn strategaeth Glasbrint ar gyfer Twf newydd y Cyngor.
"Mae llawer o drefi yng Nghymru wedi tyfu i fyny o amgylch y diwydiant glo ac mae'n iawn bod y cymunedau hyn yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn arwydd i'w groesawu sy’n dangos bod y Llywodraeth ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r nod hwnnw."
Mae yna 175 o domenni glo yn y Fwrdeistref - 47 ohonynt yn eiddo i'r Cyngor ac yn cael eu cynnal ganddo ac yn cynnwys tri chategori D, sef y categori risg uchaf; 12 categori C a 30 categori B.
'Y British yw'r safle diwydiannol segur mwyaf yn ne-ddwyrain Cymru ac mae’n gartref i nifer o lofeydd gan gynnwys Cwmbrygwn a Lower Navigation.
Bydd y grant yn mynd tuag at gost prosiect i wella diogelwch, a lleihau llifogydd, yn yr ardal a elwir yn "Black Patch", yn ogystal â datblygu uwchgynllun newydd ar gyfer y safle.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cael cyllid grant ar gyfer gwaith diogelwch ym Mlaenserchan, Tirpentwys, Pwll Glo Cwmbrân a'r Farteg Isaf.