Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Ionawr 2026
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol De Cymru wedi tynnu sylw at effaith gadarnhaol rhaglen I Dadau, Gan Dadau y Cyngor .
Mae'r rhaglen, a lansiwyd yn 2022, wedi cefnogi mwy na 140 o dadau newydd a darpar-dadau ar eu siwrnai i fod yn dadau.
Mae'r ymchwil, a gomisiynwyd gan Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Cyswllt Rhieni Cymru a Chyngor Torfaen, yn ceisio deall profiadau tadau'n well, ynghyd â’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a'u barn am hawliau plant.
Mewn cyfweliadau â chyfranogwyr datgelwyd nad oedd mwy na thraean wedi cael unrhyw gefnogaeth swyddogol cyn ymuno â'r rhaglen 10-wythnos.
Dywedodd llawer eu bod yn dibynnu’n gyfan gwbl ar bartneriaid, ffrindiau neu deulu yn unig, ac roedd yna rai ohonynt heb unrhyw un i droi ato/ati.
Canfu'r adroddiad 'Pŵer i’r Tadau' fod tua hanner yr ymatebwyr yn credu y byddai grwpiau cymorth sy'n canolbwyntio ar dadau yn werthfawr, ond roedd llawer hefyd yn galw am newid systemig ehangach, gan gynnwys:
- absenoldeb tadolaeth tecach
- cyngor cyfreithiol a chyfryngu gwell
- cydnabyddiaeth gyhoeddus gryfach o dadau fel gofalwyr cyfartal
- mwy o gyfraniad at benderfyniadau iechyd ac addysg.
Mewn cyferbyniad, disgrifiodd y rheiny a gymerodd ran yn I Dadau, Gan Dadau welliannau sylweddol yn eu hyder, eu llesiant meddyliol, eu sgiliau magu plant a’u hymdeimlad o gymuned.
Meddai Jon Desmond, 36, o Gwmbrân:
"Roedd ymuno â I Dadau, Gan Dadau yn benderfyniad hollbwysig yn ystod cyfnod brawychus, wrth i mi baratoi ar gyfer genedigaeth fy mhlentyn cyntaf. Rhoddodd gefnogaeth gyson i mi, lleddfu fy mhryderon cynnar, a dod â fi i gysylltiad â thadau a oedd ar yr un llwybr â fi. Roedd y siaradwyr gwadd hefyd yn amhrisiadwy, ac yn cynnig cyngor ymarferol a safbwyntiau ffres."
Meddai Jacob Guy, Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen, sy'n arwain y rhaglen:
"Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous i ni; cael bod yn rhan o'r ymchwil diweddaraf hwn. Bob wythnos rydyn ni'n gweld pa mor bwysig yw cyfranogiad tadau ym mywydau eu plant.
"Mae'r rhaglen yn rhoi arweiniad a chefnogaeth ond hefyd yn helpu tadau i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned ar gyfer y cyfnod pan ddaw i ben. O deithiau cerdded a sesiynau yn y gampfa i ddigwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol, mae llawer wedi ffurfio cyfeillgarwch go iawn ac yn teimlo'n llai ynysig wrth ddod yn dadau."
Mae'r ymchwil wedi cyfrannu at friffiad polisi cenedlaethol Plant yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru, a bydd y cam nesaf yn gwerthuso rhaglenni sy’n cefnogi tadau gan gynnwys I Dadau, Gan Dadau a Tadau.
Meddai Dr Klara Price, Prifysgol De Cymru: "Mae tadau yn aml yn cael eu hanghofio mewn ymchwil a pholisi. Roedden ni eisiau helpu i lenwi'r bwlch hwnnw a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
"Mae'r ymchwil hwn yn dangos bod tadau ledled Cymru eisiau cael eu clywed, eu cynnwys a'u gwerthfawrogi. Trwy wrando ar eu lleisiau, gallwn adeiladu cefnogaeth sy'n adlewyrchu realiti tadolaeth yn yr oes fodern ac yn cryfhau hawliau plant."
Mae rhaglen nesaf I Dadau, Gan Dadau yn dechrau ddydd Iau 5 Chwefror, 7pm – 9pm yng nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Torfaen