Rhaglen ffitrwydd yn ysbrydoli gweithgareddau newydd a arweinir gan y gymuned

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Ionawr 2026
Pickleball session

Mae rhaglen ffitrwydd boblogaidd sydd wedi helpu cannoedd o fenywod i wella eu hiechyd, yn dechrau cyfnod newydd cyffrous.

Mae Os ei di af i, rhaglen y Cyngor sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers bron i ddegawd, yn gweithio gyda chyn-gyfranogwyr erbyn hyn, i gynnig mwy o weithgareddau iechyd a lles i fenywod yn eu cymunedau lleol.

Mae'r penderfyniad i ehangu’r rhaglen, yn ymateb i'r cynnydd yn y galw gan fenywod sydd eisiau cadw’n egnïol, gyda rhai yn camu ymlaen i arwain sesiynau.

Mae Laura Wade, 37, wedi hyfforddi i arwain sesiynau pickleball – sef camp raced sy'n dod yn hynod boblogaidd, ac un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn y rhaglen 10 wythnos.

Meddai Laura: “Cyn cymryd rhan, doedd gen i ddim yr hyder i wneud ymarfer corff ar fy mhen fy hun. Fe newidiodd popeth ar ôl i mi gwrdd â menywod a oedd yn teimlo'r un peth.

“Rydyn ni wedi meithrin cyfeillgarwch a fydd yn para am oes. Flwyddyn yn ddiweddarach, doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i'n helpu i redeg clwb pickleball.”

Ym mis Hydref, aeth Laura ati, ochr yn ochr â’i chyd-gyfranogwr Heidi Nicholson-Evans, 60, hefyd o Gwmbrân, i sefydlu clwb pickleball i ferched. Ers hynny maent wedi ail-frandio fel 'Pickle Belles' ac maen nhw’n cynnal sesiynau yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog bob nos Iau, rhwng 6 a 7 pm.

Bydd Grŵp arall, Os Dinci di Dincia i, yn cael ei arwain gan Caroline Genever-Jones, 52, o Bont-y-pŵl, a Rhiannon Pearce, 41, o Flaenafon. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal bob dydd Mercher rhwng 6 a 7pm, yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Bowden yn Nhrefddyn.

Meddai Caroline: “Pan ddechreuais gydag Os ei di af i, doeddwn i ddim wedi cymryd rhan mewn unrhyw gamp ers blynyddoedd, ac nid oedd gennyf unrhyw hyder. Cefais hwb mawr ei angen i roi cynnig ar weithgareddau newydd, ac rydw i wrth fy modd yn chwarae pickleball.

“Os ydych chi am fynd ati i wella cydsymud llaw-llygad, adeiladu cryfder, neu gael hwyl, dewch i roi cynnig arni. Mae’n agored i oedolion o bob oed.”

Mae’r cyngor yn trefnu hyfforddiant mewn partneriaeth â Chlwb Pickleball Torfaen, ac mae’r ffioedd a godir am y sesiynau yn talu’r costau rhedeg. Mae mwy o gyfranogwyr hefyd yn hyfforddi i arwain gweithgareddau eraill, gan gynnwys grwpiau rhedeg a cherdded.

Canmolwyd y rhaglen mewn gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Abertawe a Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, a ganfu fod menywod yn fwy tebygol o gadw’n egnïol pan fydd ganddynt gefnogaeth gymdeithasol a rhywun i fod yn gwmni iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Dyma enghraifft wych o Fargen Torfaen’ ar waith - grymuso trigolion, sicrhau cefnogaeth y gymuned, a chreu cyfleoedd sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a llesiant.”

Lansiwyd Os ei di af i yn 2017 i helpu menywod i oresgyn rhwystrau i weithgarwch corfforol, fel hyder, costau, gofal plant a diffyg cefnogaeth gymdeithasol.

Mae'r rhaglen nesaf yn dechrau ar 19 Ionawr. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at megan.parker@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 15/01/2026 Nôl i’r Brig