Y Fargen yn gwella maes parcio canol tref

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Ionawr 2026
Riverside mural

Mae gwaith i wella maes parcio yng nghanol tref ar y gweill, diolch i bartneriaeth rhwng y cyngor ac ymgyrchwyr lleol.

Sefydlwyd Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl yn yr haf i helpu i adfywio canol y dref.

Nododd y grŵp, sydd â 10 aelod gan gynnwys busnesau lleol, trigolion a'r cyngor, welliannau i Faes Parcio Glan-yr-afon fel un o'u blaenoriaethau.

Mae swyddogion y cyngor wedi gweithio gyda'r grŵp i nodi pa waith sydd angen ei wneud ac wedi gwneud cais am grant Trefi Taclus gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cadeirydd, Dyl Delaney, sy'n cael ei gefnogi gan fwrdd: "Rydym wedi gwrando ar ein cymuned ac wedi cydnabod yr angen i adnewyddu Maes Parcio Glan-yr-afon, gan ei fod yn un o'r drysau ffrynt sy'n croesawu ymwelwyr i'n tref.

"Mae'r Tasglu wedi derbyn cefnogaeth fawr gan y cyngor, artREGEN, Fforwm Mynediad Torfaen, Cyfeillion Pont-y-pŵl, Hyrwyddwyr Sbwriel Torfaen a llu o fusnesau lleol.

"Rôl ganolog y tasglu yw cydweithio â'r holl grwpiau a sefydliadau gwirfoddol er budd cyffredinol, yn enwedig tuag at gefnogi'r gymuned, busnesau, ysgolion a'r amgylchedd."

Mae disgwyl i'r gwaith gwella Maes Parcio Glan-yr-afon ddechrau yn yr wythnosau nesaf, gyda gwirfoddolwyr y tasglu yn casglu sbwriel yn y cyffiniau.

Mae prosiect ar wahân i greu murlun cymunedol i wella gwedd a'r teimlad y tu mewn i'r maes parcio hefyd ar y gweill, diolch i artREGEN Pont-y-pŵl.

Mae'r sefydliad wedi gweithio gyda'r artist enwog, Andy O'Rourke, i ddylunio'r gwaith celf sy'n dangos draig yn codi o ludw’r hen waith dur a haearn, wedi'i ariannu gan grant dilyniant cymunedol.

Mae Andy a'i gydweithiwr Kate Verity hefyd wedi gweithio gyda disgyblion Teithwyr Sipsiwn yn Ysgol Gorllewin Mynwy i greu cyfres o baneli a fydd yn cael eu gosod ar hyd y llwybr cerdded rhwng Osborne Road a'r maes parcio.

Dywedodd un o’r Ymddiriedolwyr, Jennie Simons, sydd hefyd yn aelod o Dasglu Cymunedol Pont-y-pŵl: "Mae artREGEN wrth eu bodd gyda'r murlun o’r ddraig sy'n rhoi bywyd a lliw i'r fynedfa maes parcio Glan-yr-afon. Y canlyniad yw bod gofod a oedd yn dywyll ac yn ddiflas gynt bellach yn ardal groesawgar a thrawiadol.

"Rydym hefyd yn hynod falch bod y ddraig wedi derbyn cymaint o ganmoliaeth gan bobl sy’n mynd heibio. Nid yn unig gan y rhai sy'n defnyddio'r maes parcio ond hefyd gan bobl sy'n dod yn benodol i edrych ar y murlun. Mae'r gair yn amlwg wedi lledaenu. Mae hyd yn oed sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n aml yn negyddol am Bont-y-pŵl, wedi bod yn gadarnhaol iawn."

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym yn gweithio'n agosach gyda chymunedau i nodi a gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw, yn unol â Bargen Torfaen.

"Dyw’r cyngor ddim yn gallu datrys pob problem yn ein trefi, ond gallwn weithio gyda phobl eraill sy’n frwd ynghylch eu trawsnewid i fod yn economïau ffyniannus unwaith eto." 

I ymuno â Thasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, nei i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dyl Delaney trwy dyl.delaney57@gmail.com

Diwygiwyd Diwethaf: 15/01/2026 Nôl i’r Brig