Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Ionawr 2026
Wrth i'r Flwyddyn Newydd ddechrau, mae Maethu Cymru Torfaen yn parhau â'u hymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth i bobl ifanc yn eu harddegau - grŵp sy'n aml yn cael ei anwybyddu ond sydd angen cartrefi cariadus a sefydlog ar frys.
Mae Helen a Gary, o Gwmbrân, wedi bod yn maethu gyda Chyngor Torfaen ers bron i ddegawd, ac maen nhw’n angerddol ynglŷn â thorri'r stigma sy'n ymwneud â maethu pobl ifanc yn eu harddegau.
Maen nhw wedi agor eu cartref i lawer o blant dros y blynyddoedd, yn fwyaf diweddar dau fachgen yn eu harddegau, ac maen nhw’n dweud bod y wobr o wneud yn anhygoel.
Dywedodd Helen: "Nid yw pobl ifanc yn eu harddegau i gyd yn gythryblus. Maen nhw'n unigolion sydd angen ymddiriedaeth, ffiniau a chysondeb.
"Gyda chartref sefydlog, maen nhw'n ffynnu. Mae eu gwylio nhw'n tyfu, yn gwneud dewisiadau gwell, a llwyddo oherwydd eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn anhygoel."
Dechreuodd y cwpl faethu gyntaf ar ôl magu eu teulu eu hunain a chefnogi eu hwyrion.
Dewison nhw faethu pobl ifanc oherwydd bod hynny’n gweddu i'w ffordd o fyw, heb orfod cludo i’r ysgol na chewynnau ac roedden nhw’n gallu parhau i weithio tra'n gofalu.
Dywedodd Gary: "Rydyn ni'n wrth ein bodd â’r hwyl a'r hiwmor. Efallai y bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn swil ar y dechrau, ond mae jôc neu ddwy fel arfer yn helpu. Pan fyddan nhw’n dechrau cellwair yn ôl, rydych chi'n gwybod eich bod chi'n cyrraedd rhywle."
Mae mwy na hanner y plant sy'n byw mewn cartrefi preswyl neu gydag Asiantaethau Maethu Annibynnol yn eu harddegau, ac mae hyn yn aml yn golygu eu bod yn cael eu gosod ymhellach i ffwrdd o'u teulu a'u cymuned.
Trwy faethu gyda'r awdurdod lleol, gall gofalwyr helpu i gadw pobl ifanc yn lleol ac yn gysylltiedig â'r bobl a'r lleoedd sy'n bwysig fwyaf.
Mae Helen a Gary eisiau i eraill wybod bod maethu pobl ifanc yn eu harddegau nid yn unig yn bosibl, mae'n werth chweil.
Yn ddiweddar, maen nhw wedi creu blog ar wefan Torfaen Foster Wales, sy'n cofnodi eu taith fel gofalwyr maeth.
Ychwanegodd Helen: "Os ydych chi'n meddwl am faethu pobl ifanc yn eu harddegau, ewch amdani. Byddan nhw’n eich synnu, yn eich cadw chi'n chwerthin, ac yn dangos i chi'r gwahaniaeth anhygoel y gallwch ei wneud ym mywyd rhywun."
Bydd Maethu Cymru’n cynnal digwyddiad gwybodaeth ar-lein ddydd Mercher 4 Chwefror 2026 i unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu.
Bydd y sesiwn yn ymdrin â'r mathau o ofal maeth, y broses, a'r cymorth sydd ar gael, gydag amser ar gyfer cwestiynau.
Gallwch gofrestru eich diddordeb yma neu am ragor o wybodaeth ffoniwch dîm Maethu Cymru Torfaen ar 01495 766693.