Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Chwefror 2026
Agorwyd ysgol gynradd a chanolfan gofal plant gwerth £17.1 miliwn, â’r holl gyfarpar diweddaraf, yng Nghwmbrân yn swyddogol ddydd Iau, gan nodi buddsoddiad mawr yn addysg, y blynyddoedd cynnar a chymorth cymunedol.
Agorwyd Ysgol Gynradd a Chanolfan Gofal Plant Gymunedol Maendy ym Mhentre’ Uchaf yn ffurfiol gan Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, a gyflwynodd blac coffa i'r ysgol ochr yn ochr ag Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt a'r Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark.
Ysgol Gynradd Maendy, sydd â lle i 420, yw'r ysgol sero net gyntaf yn Nhorfaen ac mae ynddi 16 o ystafelloedd dosbarth modern, canolfan anghenion dysgu ychwanegol, ardaloedd chwarae awyr agored unigol a buarth chwarae.
Ochr yn ochr â'r ysgol, mae Canolfan Gofal Plant Gymunedol newydd Maendy yn darparu dwy ystafell gofal plant, crèche Dechrau'n Deg ac ystafell gymunedol.
Grŵp o’r enw Maendy First Steps Playgroup and Nursery Wraparound yw'r unig ddarparwr gofal plant sy'n gweithredu o'r adeilad, ac mae’n cynnig 40 o leoedd gofal plant.
Bydd y ganolfan hefyd yn lletya amrywiaeth o wasanaethau cymorth i’r teulu a blynyddoedd cynnar a ddarperir gan dîm Blynyddoedd Cynnar Torfaen, gan gynnwys sesiynau iaith gynnar, grwpiau cymorth i deuluoedd a gweithgareddau aros a chwarae.
Bydd ystafell gymunedol ychwanegol yn cefnogi defnydd cymunedol ehangach, gan gynnwys banc bwyd newydd i deuluoedd lleol.
Meddai Emma Payne, Pennaeth Ysgol Gynradd Maendy: "Er mai dim ond blwyddyn dw i wedi bod yma, mae'r ysgol a'i chymuned yn teimlo fel cartref yn barod.
"Fel ysgol sero net gyntaf Torfaen, mae'n fwy na lle dysgu, mae'n ystafell ddosbarth fyw sy'n dangos i'n disgyblion ein bod ni o ddifri’ am warchod y blaned a'u grymuso i ddod yn arloeswyr y dyfodol."
"O ymroddiad ein staff i amynedd a chefnogaeth ein teuluoedd, ac egni a brwdfrydedd ein disgyblion, bydd Maendy yn parhau i fod yn gymuned fywiog, ofalgar ac uchelgeisiol."
Mae'r cyfleusterau awyr agored yn cynnwys Ardal Gêmau Aml-Ddefnydd (MUGA) newydd wrth flaen y safle, cae chwarae, ardal bwrpasol ar gyfer Ysgol y Goedwig a maes parcio newydd.
Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae'r ysgol a'r cyfleuster gofal plant newydd, rhagorol, yn dangos ein hymrwymiad i godi cyrhaeddiad addysgol a rhoi'r dechrau gorau i bob plentyn mewn bywyd.
"Mae'r amgylchedd modern, eang a chroesawgar wedi'i ddylunio o amgylch anghenion plant a theuluoedd, ac yn darparu mannau ysbrydoledig o ansawdd uchel i ddysgu, chwarae a thyfu.
"Trwy ddod ag addysg, gofal plant a chymorth cymunedol at ei gilydd mewn un lle, bydd yr ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant i ffynnu, cefnogi teuluoedd a chryfhau'r gymuned ar gyfer y dyfodol."
Dyluniwyd adeilad yr ysgol i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni, ac mae wedi'i inswleiddio’n helaeth ac wedi'i bweru gan 700 metr sgwâr o baneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres o’r aer, gan leihau allyriadau carbon yn sylweddol.
Cyflawnwyd y prosiect gan Morgan Sindall Construction, a chafwyd cyllid o £5.2 miliwn gan Gyngor Torfaen a £11.9 miliwn arall gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am brosiectau addysgol a ariennir drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ewch i wefan Cyngor Torfaen.