Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026
Dathlwyd dros 160 o wirfoddolwyr yn ystod seremoni Gwobrau Gwirfoddoli y Gwasanaeth Chwarae eleni.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Theatr Congress yng Nghwmbrân ddydd Llun, yn cydnabod y gwirfoddolwyr am ddarparu dros 28,000 o oriau o gymorth chwarae dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dyfarnwyd gwobr 'Gwirfoddolwr y Flwyddyn' i Jack Evans, sy'n 18 oed ac o Gwmbrân, am ei ymroddiad, ei ddibynadwyedd a'i effaith gadarnhaol ar mewn amrywiaeth o glybiau ar ôl ysgol, sesiynau chwarae ar benwythnosau a darpariaethau chwarae hanner tymor a haf.
Mae Jack, a dderbyniodd ei wobr gan yr Aelod o'r Senedd Lynne Neagle AS, wedi bod yn gwirfoddoli er 2024. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhoddodd Jack mae wedi rhoi 1,000 o oriau o'i amser rhydd i hyrwyddo hawl plant i chwarae, gan ennill tystysgrif Rhaglen Cydnabod Gwirfoddolwyr Cynghrair Gwirfoddol Torfaen i gydnabod ei ymrwymiad.
Meddai: "Rwy' wedi cael tipyn o sioc, ond yn hapus iawn i gael y wobr. Mae gwirfoddoli gyda'r gwasanaeth chwarae wedi fy ngalluogi i fagu mwy o hyder a dealltwriaeth well am weithio gyda phlant.
"Cefais gefnogaeth ac anogaeth aruthrol gan y tîm chwarae. Hoffwn yn fawr iawn i barhau â' ngyrfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc"
Yn ystod y seremoni hefyd cyflwynwyd tystysgrifau i holl wirfoddolwyr yr haf, gwirfoddolwyr y tymor ysgol, prentisiaid a hyfforddeion a chynorthwywyr chwarae.
Cyn dechrau yn eu rolau mae pob gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn wythnos o hyfforddiant, sy'n cwmpasu meysydd fel diogelu, iechyd a diogelwch, asesiadau risg, cydraddoldeb ac amrywiaeth a gwrth-fwlio.
Pan fydd eu hamser gyda'r gwasanaeth yn dod i ben, mae gwirfoddolwyr yn cael geirda proffesiynol a thystiolaeth o'u horiau i gefnogi eu gwaith ar gyfer Bagloriaeth Cymru a cheisiadau am leoedd mewn colegau neu brifysgolion.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clarke, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
"Heb y nifer anhygoel o bobl ifanc sy'n gwirfoddoli eu hamser rhydd, allem ni ddim cynnig dewis mor eang o gyfleoedd chwarae na'r lefelau uchel o gynhwysiant y mae ein cymunedau wedi dod i'w gwerthfawrogi."
"Mae ein gwirfoddolwyr wrth galon y gwasanaeth. Mae eu hangerdd a'u hegni yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, a hefyd yn rhoi llwyfan iddynt i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd ac ysbrydoli cariad gydol oes at ddysgu."
Mae'r Gwasanaeth Chwarae nawr yn recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer yr haf, ac mae dros 80 o bobl ifanc wedi cyflwyno cais eleni yn barod.
Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r hwyl yr haf hwn, mae gofyn i chi gyflwyno cais ar-lein trwy wefan Cyngor Torfaen erbyn diwedd mis Ebrill.
Am ragor o wybodaeth am y mathau gwahanol o wirfoddoli a hyfforddiant a gynigir, anfonwch neges trwy e-bost i andrea.sysum@torfaen.gov.uk