Anrhydedd brenhinol i Reolwr Chwarae Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Chwefror 2026
Julian BEM award

Mae gweithiwr ieuenctid sydd wedi rhoi ei fywyd i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) gan y Brenin Siarl III.

Cyflwynwyd y BEM yn swyddogol i Julian Davenne, Rheolwr y Gwasanaeth Chwarae yng Nghyngor Torfaen, gan Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE – Cynrychiolydd y Brenin yng Ngwent, yn ystod seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road ddydd Mercher.

Cynhaliwyd y seremoni yn ystod sesiwn chwarae hanner tymor prysur a gynhaliwyd gan Wasanaeth Chwarae'r cyngor, gyda phlant, teuluoedd a chydweithwyr o'r gwasanaeth chwarae yn ymgynnull i ddathlu a llongyfarch Julian ar yr anrhydedd fawreddog.

Dywedodd Julian, a ddechreuodd weithio fel gwirfoddolwr ac sydd wedi neilltuo dros dri degawd i gefnogi plant a phobl ifanc yn Nhorfaen:

"Mae'n fraint lwyr derbyn yr anrhydedd hon. Rwyf wedi mwynhau'r 30 mlynedd diwethaf yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd i gyfoethogi eu bywydau.

"Nid i fi yn unig mae’r wobr hon, mae'n ymwneud â'r tîm a'r bobl o'm cwmpas, yn enwedig yr holl wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser i gefnogi'r plant yn Nhorfaen dros y blynyddoedd."

Dywedodd y Brigadydd Aitken: "Rwyf wedi cael y pleser o ymweld â Julian yn ei gynlluniau chwarae, ac ni allwn beidio â chael ein cyffwrdd gan ei frwdfrydedd, ei angerdd, ei gariad ym mhopeth y mae'n ei gyflwyno yn ei holl waith. Rydw i mor falch bod y Brenin wedi penderfynu eich gwobrwyo yn y modd hwn."

Ymgymerodd Julian â rôl y Cydlynydd Chwarae am y tro cyntaf yn 2002, pan oedd y cyngor yn cynnig dim ond nifer fach o gynlluniau chwarae mynediad agored yn yr haf a llond llaw o glybiau ar ôl ysgol.

Ers hynny, mae'r gwasanaeth wedi ehangu'n sylweddol ac mae bellach yn cael ei ystyried yn un o'r modelau gwasanaeth chwarae mwyaf blaenllaw yn y DU, gan ennill dwy wobr yn ddiweddar yng Ngwobrau Children & Young People Now yn Llundain.

O'i haf cyntaf, aeth Julian ati i drawsnewid y gwasanaeth yn rhaglen eang o weithgareddau dyddiol ac i sefydlu prosiect gwirfoddoli ieuenctid a fyddai'n cynnig profiadau ystyrlon, yn y gymuned i bobl ifanc.

Aeth ymlaen i ddatblygu'r model Chwarae a Chynhwysiant, gan sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol, yn amrywio o gyflyrau meddygol ysgafn i gymhleth, yn derbyn cymorth chwarae wedi'i addasu’n briodol.

Dywedodd y Cyng. Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae Julian wedi arloesi yng Ngwasanaeth Chwarae Torfaen a gyda'i dîm mae wedi ei osod ar y blaen o ran cynhwysiant, gan wneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc yn ystod y tymor a gwyliau ysgol.

"Mae ei agwedd gadarnhaol yn siapio ei ymagwedd at gynnwys plant ag anghenion ychwanegol ac anableddau, ac rydw i bob amser yn cael fy nharo pan fyddaf yn clywed gan deuluoedd beth mae'n ei olygu iddyn nhw. Roedd ei gred mewn gwirfoddoli bob amser o flaen ei amser, ac mae wedi rhoi cymaint i'r plant sy'n mynychu ac i'r bobl ifanc sy'n gwirfoddoli. Rydyn ni'n ffodus i'w gael ef a'i dîm yn Nhorfaen."

Heddiw, mae'r model yn cefnogi dros 250 o blant bob wythnos, gyda dros 100 o blant yn derbyn cymorth ar benwythnosau.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu tua 300 awr o gymorth chwarae i ysgolion bob wythnos, gyda mwy na 100 o brosiectau sy'n gysylltiedig â chwarae yn digwydd bob blwyddyn.

Mae'r prosiect gwirfoddoli ieuenctid a sefydlodd bellach yn denu dros 200 o bobl ifanc bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt yn defnyddio'r rhaglen fel carreg lam at addysg bellach, hyfforddiant a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dros gyfnod o ddeuddeg mis, cyflwynodd gwirfoddolwyr chwarae dros 32,000 o oriau o weithgareddau ac roedd ar waith 5 diwrnod yr wythnos trwy gydol gwyliau'r haf, gan ddarparu gwersylloedd bwyd a hwyl i dros 2000 o blant a phobl ifanc.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/02/2026 Nôl i’r Brig