Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026
Ddoe, cyfarfu aelodau o Banel y Bobl Torfaen i ystyried y cynigion ar gyfer cyllideb y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Amlinellodd Robert Green, Pennaeth Gwasanaethau Ariannol, sefyllfa ariannol ddisgwyliedig y Cyngor ar gyfer 2026/7 a blaenoriaethau buddsoddi allweddol, gan gynnwys:
- Buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £2.4m ar gyfer y ffyrdd.
- £346,000 i ysgolion i wella cymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
- £250,000 i gefnogi'r cynllun prentisiaeth i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol a £400,000 arall o fuddsoddiad mewn prentisiaethau newydd i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn Nhorfaen.
- £200,000 i fynd i'r afael â gwrthdaro mewn teuluoedd ac i atal plant rhag mynd i mewn i ofal.
- £170,000 i helpu i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd sy'n profi trais domestig.
- Cynnydd o 3.95% yn y dreth gyngor - ymhlith yr isaf yng Nghymru
Esboniodd Andrew Lovegrove, Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau, hefyd sut y byddai'r gyllideb yn helpu i gyflawni Bargen Torfaen, gyda'r nod o wella anghydraddoldebau iechyd a darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Holwyd cwestiynau am yr arian ychwanegol ar gyfer y ffyrdd, sy'n rhan o gynllun buddsoddi pum mlynedd werth £6.4m, ac am yr hyn y gellid ei wneud i leihau'r risg o lifogydd.
Rhoddodd aelodau Panel y Bobl eu cefnogaeth i'r cyllid ychwanegol ar gyfer swyddi prentisiaeth y Cyngor a thrafodwyd sut y gallai’r Cyngor gefnogi cymunedau i ymfalchïo yn eu hardaloedd lleol trwy fuddsoddiad Bargen Torfaen.
Cynhaliwyd cyfarfod Panel y Bobl ar-lein a bydd ail gyfarfod wyneb yn wyneb nos Fercher.
I gael gwybod sut y gallwch chi gofrestru ar gyfer y Panel, ewch i ardal Panel y Bobl ar wefan Cymryd Rhan Torfaen neu anfonwch neges trwy e-bost i getinvolved@torfaen.gov.uk
Mae'r cynlluniau ar gyfer y gyllideb ddrafft yn cynnwys pot o arian i'w fuddsoddi mewn cymunedau yn rhan o Fargen Torfaen. Gallwch ddweud eich dweud am gyllideb ddrafft y Cyngor ar gyfer 2026/7 - ac awgrymu sut y gellir gwario'r arian hwn yma: https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/cyllideb-2026-2027
Bydd eich sylwadau yn cael eu hystyried mewn adroddiad gerbron y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.