Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026
Ymunodd tua 500 o bobl â digwyddiad Llesiant Cymunedol Cyngor Torfaen ddydd Iau, gan fwynhau ystod eang o weithgareddau a chyngor ymarferol i gefnogi ffyrdd iachach o fyw.
Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim yng Nghanolfan Byw'n Egnïol Pont-y-pŵl yn agored i'r cyhoedd a staff y cyngor, a'i nod oedd hyrwyddo llesiant corfforol, meddyliol, ariannol a chymdeithasol.
Cafodd ymwelwyr gyfle i gymryd rhan mewn profion iechyd yn y fan a'r lle, yn cynnwys monitro pwysedd gwaed a phrofion carbon monocsid, yn ogystal â dysgu technegau ymarferol gan weithwyr iechyd proffesiynol lleol, i reoli gorbryder.
Roedd her ymarfer corff hefyd yn rhan o’r digwyddiad, a chafodd pawb a fynychodd, gyfle i gystadlu am docyn hamdden am ddim gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen, wrth ymweld â’r digwyddiad: "Rydym wrth ein bodd bod cymaint o bobl wedi dod draw i'r digwyddiad llesiant.
"Mae cefnogi cymunedau iach, egnïol a gwydn wrth wraidd Bargen Torfaen - ein contract cymdeithasol newydd gyda thrigolion. Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan bwysig o ran rhannu cyngor ymarferol, profion iechyd a chymorth lleol gyda phobl, a’u helpu i deimlo'n fwy hyderus, annibynnol a’u bod yn gallu mynd ati i fyw bywydau iachach.”
Mae'r cyngor yn cynllunio mentrau llesiant pellach drwy gydol y flwyddyn.
Am ragor o weithgareddau ac achlysuron iechyd a lles sy’n digwydd mewn cymunedau ledled Torfaen, ewch i wefan
Cysylltu Torfaen.