Wedi ei bostio ar Dydd Llun 2 Chwefror 2026
Daeth pobl sy’n byw gydag effeithiau dementia, gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr at ei gilydd yn Llyfrgell Cwmbrân ddydd Gwener, i lansio Hwb Dementia Torfaen – un o bum hwb newydd a agorwyd gan Gymdeithas Alzheimer’s ar draws ardal Gwent.
Mae'r Hwb Dementia newydd yn lle i bobl sy'n byw gydag effeithiau dementia gael cyngor a chymorth, ynghyd â gwybodaeth am gadw'ch ymennydd yn iach.
Fe fu’r rheiny a ddaeth yn mwynhau te a chacen ac yn cael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau a oedd yn bresennol, gan gynnwys Cymunedau sy’n Deall Dementia Gwent a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent.
Mae'r hwb yn agored i'r rheiny sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, ac i unrhyw un sy'n poeni am eu cof neu sydd â chwestiynau am ddementia.
Ariennir yr holl hybiau gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent. Yn ystod y cynllun peilot y llynedd, fe fu 1,300 o bobl yn ymweld â'r Hybiau Dementia.
Meddai Terry George, o Gwmbrân, a ddaeth i Hwb Dementia Torfaen yn ystod y cynllun peilot: "Ers i fy ngwraig gael diagnosis o Alzheimer's, rydyn ni wedi bod yn ymweld â'r Hwb yn Llyfrgell Cwmbrân ac yn siarad â'r Cynghorydd Dementia, Jane, sydd wedi rhoi llawer o help i ni ac wedi ein deall ni.
"Mae hi wedi ein rhoi ni mewn cysylltiad â sefydliadau gwahanol ac wedi rhoi cyngor i ni am ble i gael cymorth. Mae'r Hwb Dementia yn ased gwerthfawr iawn i ni fel dioddefwr a gofalwr."
Bydd yr Hwb Dementia ar agor bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener, rhwng 10am a 2pm.
Bydd un o bob tri o bobl sy’n cael eu geni heddiw yn datblygu dementia yn ystod eu hoes ac mae tua 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia.
Meddai Rheolwr Gwlad Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, Rachel Nelson: "Yr Hybiau Dementia newydd ar draws ardal Gwent yw'r lle i fynd i gael clust i wrando, hances neu 10, paned o de a bisgïen, a llond bwced o ddealltwriaeth.
"Trwy'r Hybiau newydd rydyn ni’n rhoi help a gobaith i bawb ar draws ardal Gwent sy’n byw gydag effeithiau dementia. Rydyn ni'n helpu pobl i wneud y mwyaf o’u bywydau gyda dementia, gan eu cefnogi trwy rai o'r adegau anoddaf a mwyaf brawychus."
Meddai Stephanie Morgan, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Torfaen:
"Rydyn ni’n falch o lansio'r hwb dementia newydd yn Llyfrgell Cwmbrân. Bydd yn darparu gwybodaeth hygyrch, arweiniad ac amgylchedd tosturiol i bobl sy'n byw gyda dementia a'r rheiny sy'n gofalu amdanynt.
"Mae llyfrgelloedd yn fannau cymunedol hanfodol, ac wrth i Lyfrgell Cwmbrân barhau i dyfu fel hwb sy'n cynnig dewis eang o wasanaethau ar y safle, mae'r gwasanaeth cymorth newydd hwn yn estyniad naturiol i'r rôl honno."
I gael rhagor o wybodaeth am yr Hybiau Dementia yng Ngwent, ffoniwch eu Llinell Gymorth ar 0333 150 3456, ac os ydych chi'n siarad Cymraeg ffoniwch y llinell gymorth Gymraeg ar 03300 947 400, neu ewch i
alzheimers.org.uk