Halo Leisure yn dathlu ei ben-blwydd 1af

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Ebrill 2026
Untitled design - 2026-04-29T132626.527

Mae Halo Leisure wedi dathlu ei flwyddyn gyntaf yn rhedeg gwasanaethau hamdden yn Nhorfaen.

Mae’r fenter gymdeithasol wedi ennill gwobrau a chymerodd awenau’r cyfleusterau hamdden yn Stadiwm Cwmbrân, Canolfannau Byw Egnïol Pont-y-pŵl a Bowden, Canolfan Hamdden Fairwater a Snowsport Torfaen ym mis Ebrill y llynedd.

Ers hynny, mae 3,200 o aelodau newydd wedi ymuno ac mae mwy na dwy fil o blant wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio sy'n achub bywydau.

Mae'r elusen wedi gwneud nifer o fuddsoddiadau sylweddol yn y Fwrdeistref gan gynnwys:

  • Ailagor y sleidiau dŵr poblogaidd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl
  • Uwchraddio llethr sgïo sych hiraf Cymru ym Mhont-y-pŵl
  • Ymestyn ac adnewyddu campfa Stadiwm Cwmbrân
  • Ailagor y wal ddringo dan do yng Nghwmbrân

Mae'r sefydliad hefyd wedi dod yn bartner allweddol ym Margen Torfaen - dull gweithredu cydweithredol newydd ar gyfer gwella iechyd a llesiant pob cymuned.

Mae cynnig Aelodaeth Hawdd newydd yn cynnig cyfradd ostyngol i bobl sy’n cael rhai budd-daliadau sy’n amodol ar brawf modd ac mae tua 73 o grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon yn defnyddio'r cyfleusterau’n rheolaidd.

Yn eu plith mae rhaglen boblogaidd y Cyngor, Os Ei Di Af I, i fenywod.

Meddai Caroline Jones, o Gwmbrân, sy'n cymryd rhan yn y Stadiwm: "Mae'r gampfa lawer yn well ac mae'n braf gallu defnyddio’r pwysau rhydd. Mae'n wych gweld pethau'n ailagor. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi defnyddio'r wal ddringo dan do ers iddi ailagor."

Meddai Owen Thomas, Rheolwr Partneriaeth Halo: "Ein cenhadaeth yw creu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt. Trwy ailagor cyfleusterau eiconig a chyflwyno prisiau fforddiadwy, rydyn ni’n profi bod hamdden yn fwy na ffitrwydd - mae'n golygu cymuned, hwyl a chyfleoedd."

Meddai David Leech, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Cyngor ar gyfer Oedolion a Chymunedau: "Mae Halo yn bartner allweddol ym Margen Torfaen a thrwy weithio gyda'n gilydd mae ein partneriaeth yn darparu manteision go iawn ar gyfer ein cymunedau.

"Mae eu buddsoddiad uniongyrchol mewn cyfleusterau hamdden, a chynnydd yn nifer y trigolion sydd ag aelodaeth, yn dyst i’w hymroddiad i helpu pobl i wella’u hiechyd a'u llesiant corfforol a meddyliol.

"Edrychwn ymlaen at archwilio cyfleoedd newydd cyffrous gyda Halo i ddod â mwy o fuddsoddiad i'r hybiau llesiant hanfodol hyn i'n cymunedau."

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Os Ei Di Af I, cysylltwch â megan.parker@torfaen.gov.uk.

Halo Leisure: https://haloleisure.org.uk/centres/

Diwygiwyd Diwethaf: 29/04/2026 Nôl i’r Brig