Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Ebrill 2026
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi ennill statws Sicrhau Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr Croeso Cymru yn dilyn asesiad manwl.
Aseswyd y Fferm ar agweddau niferus, o wybodaeth cyn cyrraedd a’r broses archebu tocynnau i staff, ansawdd y profiad, arlwyo, glendid a chyfleusterau, ac roedd cyflawniad Greenmeadow ymhell y tu hwnt i’r meincnod ar gyfer statws sicrhau ansawdd.
Ail-agorodd y fferm gymunedol yn Nhorfaen fis Medi’r llynedd yn dilyn buddsoddiad sylweddol ar draws y safle. Roedd ailddatblygu'r gyrchfan yn cynnwys mannau Chwarae Antur dan do ac awyr agored, cyfleoedd newydd i gerdded trwy fannau caeedig yr anifeiliaid, ysgubor anifeiliaid wedi'i huwchraddio a bwyty ffermdy estynedig wedi'i adnewyddu. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys cyfleusterau gwell fel toiledau hygyrch a mannau newid cewynnau, ystafell synhwyraidd a llwybrau gwell.
Meddai Sue Griffiths, Swyddog Gweithredol Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru: "Mae ailddatblygu Fferm Gymunedol Greenmeadow yn welliant mawr, gyda gweithgareddau addysgol cryf a chyflawniad staff o ansawdd uchel. Ar y cyfan, diwrnod pleserus iawn, ac mae Greenmeadow yn ennill achrediad Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru yn gyfforddus eleni."
Ers ailagor, mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi cyflawni ymhell dros ei niferoedd targed ar gyfer ymwelwyr, gyda dros 60,000 o bobl yn dod i'r Fferm, yn ogystal â 1,443 o blant mewn 36 o ymweliadau gan ysgolion a 1,600 mewn sesiynau preifat, digwyddiadau a phartïon.
Meddai Jac Griffiths, Rheolwr y Fferm: "Rydyn ni’n falch dros ben ein bod ni wedi ennill yr achrediad hwn gan Croeso Cymru. Mae'r tîm wedi gweithio’n galed dros ben i droi'r Fferm yn atyniad o ansawdd uchel, ac mae'r gymeradwyaeth hon yn meddwl y byd i ni.
"Roedd y gwaith datblygu ar y safle y helaeth iawn ac rydyn ni’n dal i dyfu ac i ychwanegu o’r newydd at brofiad yr ymwelwyr, ac mae'r adborth o'r broses hon ar gyfer Croeso Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i’n helpu i barhau i wneud hynny."
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi bod yn ased pwysig i bobl Torfaen ers y 1980au pan symudwyd y Fferm i berchnogaeth y gymuned cyn ei symud i ddwylo Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae ei hanes fel fferm weithiol yn dyddio'n ôl 250 o flynyddoedd, a’r ffermdy, a adeiladwyd o gerrig a llechi Cymreig yn dyddio'n ôl i 1752. Dechreuodd y gwaith o drawsnewid y safle yn 2024, gyda'r uchelgais i droi'r cyfleuster yn atyniad i ymwelwyr er budd pobl leol ac fel cyrchfan ranbarthol i dwristiaid.
Ychwanega Jac: "Mae statws Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru yn garreg filltir arall ar daith barhaus Fferm Gymunedol Greenmeadow ac mae'r tîm yn edrych ymlaen yn fawr at ein haf cyntaf yn ôl ar agor."