Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Ebrill 2026
Mae mwy na 100 o ferched yn cymryd rhan mewn rhaglen newydd sydd wedi'i chynllunio i'w hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd yn y sectorau STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg).
Lansiwyd rhaglen Her Place in Tech ddydd Mercher ar Gampws Casnewydd Prifysgol De Cymru, gan ddod â disgyblion, addysgwyr a phobl broffesiynol mewn diwydiant ynghyd ar gyfer diwrnod o weithgareddau ymarferol a sgyrsiau gyrfa.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan hwyluswyr STEAM yn nhîm Dyheadau'r cyngor, sy'n darparu cymorth cyflogaeth a gyrfaoedd i bobl ifanc ac sy'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Her Place a Phrifysgol De Cymru.
Wedi'i hanelu at ferched ym mlwyddyn olaf ysgol gynradd a blwyddyn gyntaf ysgol uwchradd, mae'r rhaglen yn cyflwyno disgyblion i amrywiaeth eang o yrfaoedd STEAM trwy weithdai rhyngweithiol lle byddan nhw’n cael eu mentora gan fenywod sy'n gweithio yn y diwydiant technoleg.
Ymhlith y busnesau sy'n cefnogi'r digwyddiad lansio roedd Ogi. Sero, TFW, Secura Nova, Hodge Bank, Campus XR a Science Made Simple.
Dywedodd disgybl Blwyddyn 6, Hope, o Ysgol Gynradd Blaenafon: "Fe wnes i fwynhau'r gweithdy gwyddoniaeth yn fawr. Roedd yn wych cael dysgu am sut roedd y gwahanol bethau yn gweithio."
Dywedodd disgybl Blwyddyn 7, Ebony, o Ysgol Abersychan: "Roedd y profiad yn anhygoel ac yn ymarferol iawn. Roeddwn i wrth fy modd â'r cysylltiadau gyda'r gwahanol sefydliadau."
Dros y tri mis nesaf, bydd disgyblion yn ymdrin â meysydd fel deallusrwydd artiffisial, realiti rhithwir, roboteg, awyrofod a chyfathrebu gwyddoniaeth, ochr yn ochr ag ymweliadau â chyflogwyr technoleg lleol.
Bydd disgyblion hefyd yn gweithio ar y cyd i ddylunio datrysiad digidol i fater ysgol neu gymunedol, gan gyd-greu a phrofi syniadau, cyn arddangos eu cynnyrch i bawb sy'n cymryd rhan.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan hwyluswyr STEAM yn nhîm Dyheadau'r cyngor, sy'n darparu cymorth cyflogaeth a gyrfaoedd i bobl ifanc.
Ers mis Ebrill 2025, mae'r tîm Dyheadau wedi gweithio gyda 17 ysgol i gyflwyno gweithgareddau a gweithdai sy'n cysylltu dysgu â gyrfaoedd yn y dyfodol mewn sectorau twf blaenoriaeth fel technolegau digidol, peirianneg a gwyrdd.
Ymhlith yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen mae Abersychan, Ysgol Treftadaeth Blaenafon, Garnteg a Chwmffrwdoer.
Dywedodd Angela Price, Rheolwr Grŵp Dyheadau ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid yng Nghyngor Torfaen:
"Holl syniad y fenter hon yw ysbrydoli merched i weld eu hunain nid yn unig fel defnyddwyr technoleg, ond fel crewyr, arloeswyr ac arweinwyr y dyfodol mewn technoleg.
"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â busnesau lleol ac yn cael eu cefnogaeth. Mae eu cyfranogiad yn helpu i ddod â'r gyrfaoedd hyn yn fyw ac yn dangos i ddisgyblion beth sy'n bosibl yma yn Nhorfaen.
"Mae'r gwaith hwn hefyd yn cefnogi Amcanion Llesiant y cyngor yn uniongyrchol trwy helpu pobl ifanc i feithrin hyder, sgiliau a dyheadau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol mewn sectorau twf uchel."
Gall busnesau sy'n dymuno cymryd rhan yn y fenter hon wneud hynny drwy gofrestru drwy'r ffurflen ar-lein, neu drwy e-bostio aspirations@torfaen.gov.uk