Ffermwr am Ddiwrnod yn cynnig profiad ymarferol i blant

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Ebrill 2026
Farmer for a Day

Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn lansio profiadau "Ffermwr am Ddiwrnod", gan gynnig cyfle ymarferol i ymwelwyr ifanc brofi bywyd ar fferm weithiol. Mae'r profiad hanner diwrnod o hyd wedi'i anelu at blant 4-12 oed ac mae'n darparu gweithgareddau ymarferol dan oruchwyliaeth sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau ffermio o ddydd i ddydd.

Bydd y darpar ffermwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau tymhorol, rhyngweithiol a hwyliog ac yn cael mynediad unigryw y tu ôl i'r llenni i'r atyniad i ymwelwyr yng Nghwmbrân. Bwydo, gofalu am anifeiliaid, trin, carthu a chasglu wyau yw rhai o'r gweithgareddau y bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn eu gwneud wrth iddynt gael cipolwg ar fywyd fel ffermwr.

Mae'r profiad wedi'i gynllunio i roi cyflwyniad i bobl ifanc i'r sector amaethyddol, a'r hyn sydd ei angen wrth ofalu am anifeiliaid a rhedeg fferm.

Dywedodd Jac Griffiths, Rheolwr Fferm Gymunedol Greenmeadow: "Mae'r Ffermwr am Ddiwrnod yn brofiad hwyliog iawn lle mae plant yn mynd y tu ôl i'r llenni, yn dod yn agos at anifeiliaid ac yn dysgu sut i ofalu amdanynt mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth.

"Mae yna lawer o gyfleoedd i ddysgu a deall o ble mae bwyd yn dod, ond mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â chael hwyl a phrofi’n uniongyrchol y mathau o waith y mae ffermwyr yn ei wneud bob dydd."

Mae mwy na 90% o dir yng Nghymru wedi'i neilltuo i amaethyddiaeth ac adroddodd Undeb Amaethwyr Cymru yn 2025 fod sector bwyd a diod Cymru yn werth dros £9.3 biliwn i economi Cymru. Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow eisiau cefnogi plant i ddeall o ble mae bwyd yn dod, sut mae ffermydd yn gweithredu a'r berthynas rhwng arferion ffermio, lles anifeiliaid a stiwardiaeth amgylcheddol, a’r cyfan wrth gael profiad hwyliog a phleserus.

Ychwanegodd Jac: "Mae yna lawer o dystiolaeth bod cenedlaethau iau yn ymgysylltu mwy â chynhyrchu bwyd a'r amgylchedd, mae'n gyfnod heriol i ffermio. Mae'r tîm yn Greenmeadow yn angerddol am ffermio, ac rydym yn llawn cyffro o allu cynnig cipolwg agosach i ymwelwyr ifanc o’r hyn y mae'n ei olygu."

Bydd tîm fferm profiadol Fferm Gymunedol Greenmeadow yn cyflwyno'r sesiynau a fydd yn cael eu cynnal yn bennaf yn ystod penwythnosau a gwyliau'r ysgol. Mae'r sesiynau wedi'u teilwra i blant 4-8 oed, y mae'n rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn, a phlant 8-12 oed, sy'n gallu cymryd rhan ar eu pennau eu hunain. Mae croeso i gyfranogwyr aros a mwynhau'r fferm ar ôl y sesiwn.

Mae pris sesiynau o £25 y plentyn, ac mae’r oedolion gyda nhw’n mynd am ddim. Bydd y sesiynau cyntaf yn digwydd ddydd Sadwrn 25 Ebrill a 9 Mai, gyda mwy o ddyddiadau yn dod yn fuan.

Dysgwch fwy a bwciwch: www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2026 Nôl i’r Brig