Byddwch yn Barod i'r Ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 13 Ebrill 2026
School readiness

Mae ymgyrch wedi'i lansio i helpu rhieni a gofalwyr i baratoi plant ar gyfer y dosbarth derbyn, wrth ddechrau’r ysgol.

Yn ôl arolwg peilot yn Nhorfaen, efallai na fydd tua chwarter y plant tair i bedair oed yn barod ac wedi dysgu’r sgiliau a fydd yn eu cefnogi i ddechrau yn y dosbarth derbyn.

Gall hyn gynnwys sgiliau personol, fel gwisgo esgidiau a chotiau a defnyddio'r tŷ bach yn annibynnol; gallu chwarae a chyfathrebu ag eraill a sgiliau echddygol mân, fel arlunio a chwarae gyda thoes.

Yng Nghymru, cydnabyddir bod chwarae yn rhan sylfaenol o ddatblygiad plant. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gosod llesiant, datblygiad a hawliau plant wrth galon ymarfer yn ystod plentyndod cynnar.

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar y Cyngor yn gweithio gyda lleoliadau gofal plant preifat a meithrinfeydd ysgol i asesu effaith yr hyn a elwir yn ‘barodrwydd i’r ysgol’ i wella addysg plant.

Mae adnodd newydd 'Barod i’r ysgol' am sut i baratoi plant i ddechrau yn yr ysgol gynradd hefyd wedi cael ei greu ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Mae'r tudalennau gwe hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i rieni plant sy'n symud i'r ysgol uwchradd, a’r rheiny sydd yno’n barod.

Meddai Charlotte Dickens, Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar: "Mae blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn yn cael effaith sylweddol ar ba mor dda maen nhw'n dod ymlaen yn yr ysgol.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw pob plentyn yn datblygu ar yr un cyflymder, a bydd angen cymorth ychwanegol ar rai plant.

"Y ffordd orau o sicrhau bod eich plentyn ym barod i’r Dosbarth Derbyn yw trwy chwarae: mae siarad, archwilio, dychmygu, ac ymuno mewn gweithgareddau bob-dydd yn eu helpu i adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer yr ysgol. Mae arferion da fel amseroedd gwely rheolaidd, cyfyngu ar amser sgrin a phresenoldeb da mewn Addysg Feithrin yn helpu pob plentyn i fod yn barod i ddysgu.

"Os ydych chi'n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â meithrinfa neu ymwelydd iechyd eich plentyn. Mae yna lawer o gefnogaeth i rieni ac ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn y gymuned, neu gallwch alw heibio i un o'n gweithgareddau ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar."

Meddai Lisa Jones, Rheolwr Meithrinfa Osbourne Lodge, a gymerodd ran yn y cynllun peilot: "Mae'r wythnos gyntaf honno yn yr ysgol mor bwysig, ac mae helpu plant i deimlo'n barod yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae sgiliau personol a chymdeithasol fel gallu defnyddio’r tŷ bach, gwisgo eu hesgidiau a'u cotiau eu hunain, a bwyta ac yfed yn annibynnol i gyd yn helpu plant i setlo'n hyderus.

"Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot wedi dangos i ni pa mor werthfawr y gall paratoi cynnar fod, ac mae'n wych fod gan rieni adnodd newydd nawr i gefnogi'r sgiliau hyn gartref."

I gael gwybodaeth am yr ymgyrch 'Barod i’r Ysgol', ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/04/2026 Nôl i’r Brig