Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 1 Ebrill 2026
Mae'r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn y Fwrdeistref yn dweud eu bod wedi gweld tystiolaeth anecdotaidd i awgrymu bod disgyblion mor ifanc ag 11 oed wedi colli'r ysgol, neu wedi dod i'r ysgol wedi blino, oherwydd eu bod wedi bod yn gweithio y tu allan i'r terfynau oed cyfreithiol.
Maen nhw nawr wedi cefnogi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am y gyfraith ynghylch cyflogaeth plant ac effaith gwaith anghyfreithlon, yn rhan o ymgyrch presenoldeb #DdimMewnColliMas y Cyngor.
Mae'r ymgyrch ddiweddaraf hon ar y gweill yn ystod Mis Cyflogaeth Plant, a’r Cyngor yn annog teuluoedd a chyflogwyr i wirio'r gyfraith cyn i bobl ifanc ymgymryd ag unrhyw waith am dâl/neu’n ddi-dâl.
Yn ôl y gyfraith, gall pobl ifanc gael eu cyflogi o 14 oed, a gall Awdurdodau Lleol ganiatáu cyflogaeth o 13 oed, ond mae yna fesurau rheoli llym.
Dydy plant ddim yn cael gweithio yn ystod y diwrnod ysgol, a dim ond nifer cyfyngedig o oriau y gallant weithio, ac mae’r mathau o waith y gallan nhw ei wneud yn gyfyngedig.
Rhaid i gyflogwyr wneud cais am drwydded cyflogaeth plant cyn i unrhyw unigolyn ifanc, o dan 16 oed, ddechrau gwaith. Heb drwydded, nid yw'r gwaith yn gyfreithlon.
Meddai Sarah Allard, Swyddog Lles Addysg Cyngor Torfaen: "Mae ysgolion yn dweud wrthym eu bod yn dod ar draws mwy o ddisgyblion a allai fod yn cael trafferth oherwydd ymrwymiadau gwaith sydd ddim yn bodloni'r gofynion cyfreithiol.
"Mae'n galonogol gweld bod pobl ifanc eisiau bod yn uchelgeisiol, ennill profiad ac ennill ychydig o arian yn eu hamser rhydd. Ond, hyd yn oed pan gaiff ei gynnig gyda'r bwriadau gorau, gall gwaith sydd ddim yn cael ei reoleiddio achosi risg i ddiogelwch, llesiant ac addysg plentyn.
"Mae ein hymgyrch yn anelu at atgoffa teuluoedd a chyflogwyr am eu cyfrifoldebau fel nad yw pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn perygl na dan straen ddiangen."
Yn ôl NNCEF (National Network for Children in Employment & Entertainment), yn ystod un Mis Cyflogaeth Plant, ymwelodd swyddogion â 1,394 o gyflogwyr. Daethant o hyd i 1,092 o blant yn gweithio, a 541 ohonynt yn cael eu cyflogi'n anghyfreithlon - y rhan fwyaf heb y drwydded waith sy'n ofynnol yn gyfreithiol.
Meddai Tim Seghiri, Dirprwy Bennaeth ac Arweinydd Presenoldeb Ysgol Uwchradd Cwmbrân: "Gall gwaith rhan-amser fod yn gyfle gwych pan gaiff ei wneud yn ddiogel ac o fewn y gyfraith.
"Dydy ein neges ddim yn golygu annog plant i beidio â gweithio, ond yn hytrach mae'n golygu sicrhau ei fod yn digwydd yn y ffordd iawn, gyda'r mesurau diogelu cywir yn eu lle, a byth ar draul addysg plentyn.
"Pan fydd cyflogwyr yn cadw at y gyfraith ac mae gan deuluoedd wybodaeth glir, gall plant elwa ar brofiad gwaith a chadw'r ysgol, gorffwys a gwaith cartref ar y trywydd iawn hefyd."
Mae ymgyrch #YsgolYnGyntaf newydd y Cyngor yn tynnu sylw at ganllawiau i rieni a chyflogwyr, am y gofynion cyfreithiol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gwaith anghyfreithlon.
Mae rhagor o wybodaeth am reolau cyflogaeth plant a cheisiadau am drwyddedau ar gael ar wefan y Cyngor: