Gwobr genedlaethol gweithredu ar yr hinsawdd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Medi 2025
APSE collage

Mae tîm arlwyo ysgolion y cyngor wedi ennill gwobr genedlaethol am ei ymagwedd sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd gyda phrydau ysgol.

Mae'r tîm wedi gweithio gydag arbenigwyr i leihau ei allyriadau carbon trwy newid i gynhwysion lleol, lleihau gwastraff bwyd, lleihau'r defnydd o ynni yn y gegin a newid i gerbydau trydan.

Ers 2023, maen nhw wedi lleihau allyriadau carbon y gwasanaeth wyth y cant a lleihau allyriadau fesul cilogram o fwyd 32 y cant - er gwaethaf cynnydd o 35 y cant mewn prydau bwyd.

Yr wythnos ddiwethaf, cawson nhw wobr am y cynllun Gweithredu ar yr Hinsawdd/Datgarboneiddio Gorau gan APSE – y Gymdeithas Rhagoriaeth yn y Sector Cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydym yn angerddol am leihau gwastraff a'n heffaith amgylcheddol yn Nhorfaen, ac mae'r tîm arlwyo yn enghraifft o hyn.

"Mae eu gwaith yn dangos sut y gall gweithredu lleol wneud gwahaniaeth mawr ac rwy'n falch bod cymaint o ysgolion hefyd wedi cymryd rhan trwy weithio i leihau gwastraff bwyd yn eu ffreuturau."

Ers 2023, mae ysgolion cynradd wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth gwroniaid gwastraff sy'n cael ei chynnal gan y gwasanaeth – un o'r nifer o ffyrdd maen nhw'n cael ysgolion i gymryd rhan mewn lleihau eu heffaith ar newid yn yr hinsawdd.

Torfaen yw'r gwasanaeth arlwyo ysgolion cyntaf yng Nghymru i gynnal y lefel hon o ddadansoddiad carbon ac maen nhw wedi symud o'r nawfed uchaf ar gyfer allyriadau i'r pedwerydd isaf yn y DU.

Mae llwyddiannau’r tîm eisoes wedi denu sylw cenedlaethol.

Yn 2023 cyrhaeddodd y tîm arlwyo restr fer gwobr gynaliadwyedd fawr yn y DU - ochr yn ochr ag enwau mawr fel BUPA, Wagamama, a Coca-Cola.

Wrth edrych ymlaen, mae'r tîm yn bwriadu parhau i wella ryseitiau ac ail-ymgysylltu â Phrifysgol Caeredin i fesur cynnydd yn y dyfodol.

Mae eu Cynllun Prydiau Cynaliadwy ar gael i’w weld ac mae’n olrhain  eu taith tuag at brydiau ysgol mwy gwyrdd.  

Dysgwch fwy am addewid y cyngor ar newid hinsawdd.   

Diwygiwyd Diwethaf: 26/09/2025 Nôl i’r Brig