Wedi ei bostio ar Dydd Llun 27 Hydref 2025
Bydd car gorfodaeth camera newydd yn mynd i'r strydoedd i helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd o'r wythnos nesaf ymlaen
Bydd gan y cerbyd deledu cylch cyfyng i gofnodi lluniau o unrhyw geir sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion, mewn arosfannau bysiau neu ar linellau igam-ogam.
Bydd cyfnod rhybudd o dair wythnos yn dechrau ddydd Llun Tachwedd 3, pan fydd unrhyw yrwyr sy'n cael eu dal wedi'u parcio'n anghyfreithlon yn cael rhybudd ysgrifenedig.
O ddydd Llun Tachwedd 24 ymlaen, bydd gyrwyr sy'n cael eu gweld yn parcio mewn ardaloedd eithriedig yn cael hysbysiad tâl cosb yn awtomatig.
Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn cael cwynion yn rheolaidd gan ysgolion am barcio anghyfreithlon sy'n peri risg ddifrifol i ddisgyblion. Er bod ein swyddogion gorfodaeth sifil yn ymweld ag ysgolion yn rheolaidd, mae modurwyr yn aml yn symud ymlaen pan fyddant yn eu gweld.
"Nid yw'r car camera wedi'i gynllunio i fod yn gudd ond bydd yn gallu canfod ceir sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon heb i'r swyddogion orfod stopio. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog gyrwyr i feddwl ddwywaith cyn parcio mewn ardal gyfyngedig."
Yn ôl adroddiad Aelod Gweithredol ym mis Gorffennaf, bydd y car yn targedu parcio peryglus a rhwystrol o amgylch ysgolion, arosfannau bysiau, llinellau igam-ogam, cilfachau llwytho, cyfyngiadau dim llwytho / dadlwytho a llinellau melyn dwbl gyda marciau ar y palmant.
Bydd deiliaid bathodyn glas yn parhau i gael parcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr, os nad oes cyfyngiadau llwytho’n bod ac mae'n ddiogel gwneud hynny.