Wedi ei bostio ar Dydd Llun 27 Hydref 2025
Y darlledwraig radio a theledu, Eleri Siôn, fydd yn llywio digwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes eleni.
Bydd y cyn gohebydd chwaraeon sydd â’i rhaglen ein hun ar BBC Radio Wales, yn ymuno â Katie Summers a Julianna Woods, cyd-sylfaenwyr The Mellow Patch Company, yn y digwyddiad yng Ngwesty’r Parkway fis nesaf.
Bydd y noson hefyd yn cynnwys te prynhawn, adloniant byw, cyfleoedd i rwydweithio, byrddau masnach gan gynnwys ffair fach Nadolig, a raffl gyda gwobrau gwerth cannoedd o bunnoedd.
Mae tocynnau’n £12 ac yn £25 ar gyfer byrddau masnach. Eleni, bydd yr elw’n mynd at Uned y Fron, Ysbyty Ystrad Fawr.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae digwyddiad Menywod mewn Busnes yn un o uchafbwyntiau’r calendr busnes. Mae’r egni a’r brwdfrydedd yn yr ystafell yn ysbrydoledig.
"Mae’r noson yn gyfle gwych i fenywod busnes o’r un anian rannu profiadau, dysgu gan ei gilydd, ehangu eu rhwydweithiau busnes a chael amser da dros ben!"
Bydd digwyddiad Menywod mewn Busnes rhwng 4.30pm a 8pm ddydd Mercher, Tachwedd 12.
Llynedd, daeth dros 100 o fenywod i’r digwyddiad, a gododd dros £1100 ar gyfer Cymorth i Fenywod Cyfannol.
Ariennir digwyddiad Menywod Torfaen mewn Busnes gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.