Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Hydref 2025
Mae dau berson ifanc wedi cofrestru gyda rhaglen arweinyddiaeth newydd i annog eraill i gymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.
Mae'r rhaglen Arweinwyr Ifanc wedi'i hanelu i ddechrau at bobl ifanc, 18 i 25 oed, sydd wedi bod yn rhan o Fforwm Ieuenctid Torfaen.
Y nod yw eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth o lywodraeth leol a chynrychioli lleisiau'r fforwm ieuenctid a sefydliadau ieuenctid eraill.
Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi'r fforwm ieuenctid gyda chyfarfodydd ac ymweliadau, gweithio gyda swyddogion y cyngor, gan gynnwys y tîm etholiadol, a chysgodi Aelodau Gweithredol.
Y gobaith yw y gellir datblygu'r rhaglen flwyddyn yn y dyfodol i gynnwys aelodau o grwpiau Cynghrair Ieuenctid Torfaen.
Dywedodd Boyd Painter, o Flaenafon, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â Corban Edwards, o Gwmbrân: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu’r yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu fel rhan o Fforwm Ieuenctid Torfaen.
"Mae gwirfoddoli wrth galon ein cymuned - mae pob cyfraniad unigol gan un person yn eu cymuned yn ehangu ymdeimlad cadarnhaol. Trwy'r cynllun hwn rwy'n gobeithio cael gwell dealltwriaeth o ddymuniadau ac anghenion pobl ifanc y byddaf yn gwneud fy ngorau i'w cynrychioli."
Bydd yr arweinwyr ifanc yn cael eu cefnogi gan Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y cyngor a'r cydlynydd gwirfoddoli Katrina Nocks.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae barn pobl ifanc yn bwysig iawn ond nid yw pobl ifanc yn aml yn gwybod sut i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.
"Rydyn ni'n gweithio'n galed i gynnwys pobl ifanc trwy fentrau fel y fforwm ieuenctid, cynghrair ieuenctid a diwrnodau pobl ifanc yn cymryd yr awenau, ond rydym yn gobeithio y bydd cael pobl ifanc wrth galon rhedeg y cyngor o ddydd i ddydd yn rhoi'r hyder i eraill gymryd rhan hefyd.
"Bydd y rhaglen hefyd yn galluogi ein harweinwyr ifanc i ddatblygu profiad, gwybodaeth a sgiliau a fydd yn eu helpu ym mha bynnag lwybr gyrfa y maen nhw’n ei ddewis."
Ail-lansiwyd Fforwm Ieuenctid Torfaen ym mis Chwefror 2024 ac mae wedi'i anelu at ddisgyblion ysgol uwchradd sydd â diddordeb yn eu cymuned leol.
Sefydlwyd Cynghrair Ieuenctid Torfaen, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o 12 sefydliad pobl ifanc er mwyn nodi heriau cyffredin ac atebion, ym mis Mehefin 2024.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu Fforwm Iau Torfaen ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd.
Bydd y diwrnod nesaf i bobl ifanc gymryd yr awenau’n cael ei gynnal ym mis Rhagfyr. Bydd disgyblion ysgol uwchradd yn gallu gwneud cais am amrywiaeth o rolau, gan gynnwys bod yn brif weithredwr y cyngor am y diwrnod. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â philip.wilson@torfaen.gov.uk