Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Chwefror 2026
Cyfarfu aelodau'r Cynulliad Dinasyddion am y tro olaf y penwythnos diwethaf i helpu i lunio egwyddorion Bargen newydd Torfaen.
Mae'r Fargen yn ffordd newydd o weithio rhwng y Cyngor, cymunedau a sefydliadau partner, gyda'r nod o adeiladu sir decach a mwy cydnerth, gwella iechyd a llesiant trigolion, a lleihau anghydraddoldebau.
Mae'r trigolion, a gafodd eu dewis ar hap, wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan mewn tair sesiwn lle maent wedi clywed sut y gallai Bargen Torfaen edrych a gweithio yn ymarferol.
Fe wnaethant gynnig a chytuno y dylai'r Fargen:
Egwyddor 1. Weithio gyda chymunedau, nid ar eu rhan
Egwyddor 2. Defnyddio dewis eang o ddulliau cyfathrebu
Egwyddor 3. Meithrin ymddiriedaeth trwy atebolrwydd
Egwyddor 4. Cryfhau perchnogaeth gymunedol a chyd-gyfrifoldeb
Egwyddor 5. Grymuso cymunedau trwy bartneriaeth
Egwyddor 6. Lleihau rhwystrau i gyfranogiad
Egwyddor 7. Mynd ar drywydd cynaliadwyedd amgylcheddol
Fe wnaethant ofyn am newid geiriad rhai o'r egwyddorion a chytuno arnynt cyn i'r egwyddorion gael eu cynnwys mewn adroddiad i'r Cyngor ym mis Mawrth.
Yr wythnos hon, fe fu dau o aelodau'r cynulliad, David Thomson ac Elizabeth Aston, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Trawsbynciol i siarad am eu profiadau.
Meddai David: "Roedd y Cynulliad Dinasyddion yn gyfle i siarad â phobl o'r un anian o ardaloedd gwahanol, taflu syniadau a dod o hyd i ffordd ymlaen lle gall y Cyngor a thrigolion weithio gyda'i gilydd.
"Mae llawer yn digwydd yn ein cymunedau a dyna lle gallwn ni wneud gwahaniaeth. Mae angen i ni gael y neges allan a dyna sut rydyn ni'n mynd i wneud pethau yn y dyfodol."
Ychwanegodd Elizabeth: "Roeddwn i'n teimlo bod pawb yn gallu cyfrannu a thrafod eu safbwyntiau. Fel tîm, roedden ni’n teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi ac roedd yn teimlo fel bod staff y Cyngor wedi buddsoddi'n gryf yn y fenter."
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Roedd yn wych cael ymgysylltiad gweithredol gan grŵp unigryw o drigolion. Cawsom ymateb cadarnhaol ac ymgysylltiedig gan bobl sy'n amlwg yn poeni am ein cymunedau ac eisiau chwarae eu rhan i helpu i'w gwella.
"Fe wnaethon ni addewid i'r grŵp i barhau i ymgysylltu â nhw a'u diweddaru am ein hymdrechion i symud ymlaen â'r Fargen, gan gynnwys eu cael yn ôl at ei gilydd ymhen blwyddyn i siarad am y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud.
"Bydd deialog onest a rheolaidd yn bwysig iawn i brofi cynnydd y Fargen a'r effaith y mae'n ei chael mewn cymunedau."
Gallwch wrando ar gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Trawsbynciol
Cewch ragor o wybodaeth am Fargen Torfaen: https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/y-fargen-torfaen