Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Hydref 2025
Cafodd bron i £500,000 ei ddyfarnu i sefydliadau cymunedol i'w helpu i gefnogi trigolion lleol.
Mae'r cynllun Grantiau Dilyniant Cymunedol wedi dyfarnu 37 o grantiau, o rhwng £2,000 a £33,000 ar gyfer ystod o brosiectau, gan gynnwys gwella adeiladau cymunedol, cefnogi neu ehangu gwasanaethau presennol, neu sefydlu rhai newydd.
Roedd grŵp dawns cymunedol yng Nghwmbrân, yn un o'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Sefydlwyd Hip Hop 12 gan y DJ arobryn Miaer Lloyd a'r breg-ddawnsiwr proffesiynol Tommy Boost i roi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu am y diwylliant dawns, a datblygu sgiliau newydd.
Meddai Miaer, o Gwmbrân, a’r cyntaf yng Nghymru i ennill Pencampwriaeth DJ Technics DMC UK yn 2023: "Mae Hip Hop yn fwy nag arddull ddawns yn unig - mae'n ddiwylliant sy'n ymgorffori gwahanol ddisgyblaethau gan gynnwys DJeio, breg-ddawnsio a graffiti.
"Gall fod yn gorfforol heriol, ac mae’n galw am ffocws a thipyn o ganolbwyntio. Mae hefyd yn helpu i ddysgu plant a phobl ifanc sut i gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn ffordd iach a pharchus, sy'n eu hysbrydoli i wella."
Rhoddwyd £18,000 i'r grŵp i gynnal sesiynau am ddim, i blant 6-12 oed, yng Nghwmbrân, rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.
Bydd y grant hefyd yn eu galluogi i ddatblygu partneriaethau lleol, a denu cyllid yn y dyfodol i sicrhau cynaliadwyedd y grŵp.
Mae'r grantiau yn rhan o fwriad y cyngor i wella gwytnwch cymunedol a lleihau
anghydraddoldebau iechyd trwy fuddsoddi mewn sefydliadau a phartneriaid gwirfoddol a thrydydd sector, a gweithio'n agos gyda nhw.
Roedd y rhai a lwyddodd i dderbyn grant, yn cynnwys amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau, o ddawns i fannau gwyrdd, cymorth profedigaeth a phrosiectau iechyd meddwl.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Nod ein dull llesiant cymunedol yw alinio gwasanaethau’r cyngor â chymorth cymunedol presennol, canfod problemau, a’u hatal mewn modd rhagweithiol cyn iddynt waethygu, a grymuso cymunedau trwy gysylltu sefydliadau lleol yn well, a’i gwneud yn haws i drigolion gael hyd i gefnogaeth.
"Mae'n rhan greiddiol o amcanion llesiant ehangach y cyngor, sy'n pwysleisio atal, cynnwys y gymuned, a gwella gwasanaethau i ddiwallu anghenion trigolion."
Cyflawnwyd gwaith y Gronfa Dilyniant Cymunedol diolch i £480,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.