Disgyblion yn gostwng gwastraff bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Hydref 2025
waste warriors

Mae disgyblion yn helpu i leihau gwastraff bwyd, diolch i gystadleuaeth tîm arlwyo’r cyngor.   

Cymerodd pedair ar ddeg o ysgolion ran yng nghystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff eleni, gan dorri eu gwastraff bwyd 26 y cant ar gyfartaledd. 

Fel rhan o'r gystadleuaeth, roedd disgyblion yn monitro ac yn cofnodi faint o fwyd a daflwyd yn eu neuaddau bwyta a chynllunion nhw ymgyrchoedd i gael eu cyd-ddisgyblion i leihau'r hyn maen nhw'n ei daflu i ffwrdd. 

Yr enillwyr oedd disgyblion o ysgol gynradd Treftadaeth Blaenafon, a drefnodd oriel enwogion i ddisgyblion a oedd yn bwyta eu bwyd i gyd a ffeithluniau’n dangos y gostyngiad yn eu gwastraff. 

Ysgol Gynradd Blenheim Road, yng Nghwmbrân, oedd yn ail ar ôl iddynt gofnodi sut y gwnaethon nhw leihau gwastraff bwyd a chreu posteri ar gyfer eu hymgyrch. 

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydym yn gwybod mai'r pryd lleiaf maethlon yw'r un sy'n mynd i’r bin gwastraff bwyd. 

"Felly dyma ni'n gweld nerth disgyblion ar ei orau, gyda disgyblion yn dylanwadu ar yr hyn y mae ein harlwywyr yn ei weini ar y fwydlen tra’n cymryd cyfrifoldeb hefyd am annog eu cyfoedion i orffen y pryd hwnnw.   

“Buddugoliaeth i fwyta’n iach, a buddugoliaeth i’r amgylchedd.”  

Nikki Westwood, Cydlynydd Eco, Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon: "Llongyfarchiadau mawr i’n plant am ennill cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff. 

“Mae eu hymdrechion i leihau gwastraff bwyd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac rydym mor falch o’u llwyddiant.   

Diolch i’r staff a’r plant i gyd am eich cefnogaeth a’ch gwaith tîm wrth ein helpu ni i ofalu am ein byd.”    

Meddai Alison Preece, Arweinydd Eco, Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road: "Dewisodd y Pwyllgor Eco gymryd rhan ym menter Gwroniaid Gwastraff, oherwydd eu bod yn credu ei fod yn hanfodol annog plant i feddwl yn ofalus am effaith gwastraff bwyd.  

“Rwy'n hynod falch o ymrwymiad y plant, yn ogystal â’u creadigrwydd a’u gwaith tîm trwy gydol y prosiect – mae eu brwdfrydedd wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.” 

Enillodd y ddwy ysgol sesiwn coginio iach drwy'r dydd i 16 o ddisgyblion, diolch i gyllid gan bartneriaeth Food4Growth Torfaen. Talodd y grŵp hefyd am gloriannau i bob ysgol a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. 

Lansiwyd cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff gan dîm arlwyo'r cyngor yn 2023 fel ffordd o wneud y gwasanaeth prydau ysgol yn fwy cynaliadwy. 

Fis diwethaf, enillodd y tîm arlwyo ysgolion wobr genedlaethol am ei ymagwedd sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd tuag at brydau ysgol. 

Dysgwch beth arall mae'r gwasanaeth arlwyo yn ei wneud i leihau allyriadau carbon  

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2025 Nôl i’r Brig