Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Cyfarfu disgyblion o bedair ysgol gynradd yr wythnos hon i dreialu Fforwm Ieuenctid Iau newydd Torfaen.
Cyfarfu un ar ddeg o gynrychiolwyr cynghorau ysgolion cynradd George Street, Tref Gruffydd, Pen-y-garn a’r Dafarn Newydd yn ysgol y Dafarn Newydd, lle trafodon nhw bwysigrwydd cael llais i blant.
Cymeron nhw ran mewn gweithdy gydag aelod o dîm Comisiynydd Plant Cymru ynglŷn ag Erthygl 12 Hawliau Plant CCUHP, sy'n dweud y dylai plant gael yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd.
Hefyd, nodon nhw bwnc ar y cyd i weithio arno cyn cwrdd eto yn nhymor yr haf.
Dywedodd Jack, disgybl Blwyddyn 6 o Ysgol Gymunedol Pen-y-garn: "Fe wnes i fwynhau heddiw a chwrdd â phobl o ysgolion eraill a gweld sut maen nhw'n tynnu ymlaen."
Dywedodd Skye Lewis, disgybl Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd George Street: "Mwynheais i’r darlunio a phaentio; mae pawb yn sefyll dros ein hawliau, fel y gallwn gael popeth sydd ei angen arnom."
Dywedodd Kath O'Kane, swyddog cyfranogiad Comisiynydd Plant Cymru: "Mae'n wych bod disgyblion o wahanol ysgolion yn Nhorfaen yn cael cyfle i ddod ynghyd i leisio a mynegi eu hawliau."
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae'n wych clywed aelodau'r fforwm iau yn trafod pwysigrwydd cael pobl i glywed eu lleisiau.
"Mae ein fforymau ieuenctid iau a hŷn, Cynghrair Ieuenctid Torfaen a diwrnodau blynyddol cymryd awenau’r cyngor i gyd wedi'u hanelu at roi cyfle i blant a phobl ifanc ddweud wrthym beth maen nhw'n ei feddwl ac i gael eu clywed."
Bydd Fforwm Ieuenctid Iau nesaf Torfaen yn cael ei gynnal yn nhymor yr haf. Bydd yn cael ei adolygu gyda'r ysgolion gyda'r bwriad o'i ymestyn i ysgolion eraill cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Cyfarfu aelodau o Fforwm Ieuenctid Torfaen hefyd yn y Ganolfan Ddinesig, ym Mhont-y-pŵl, yr wythnos hon lle gwnaethant osod eu hamcanion ar gyfer y flwyddyn a thrafod cynlluniau ar gyfer Y Fargen - Torfaen newydd.
Gallwch gymryd rhan yn y sgwrs am gynlluniau'r cyngor ar gyfer ffordd newydd o weithio gyda thrigolion a chymunedau: https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/y-fargen-torfaen