Cau ffordd ar gyfer gwaith hanfodol ar bont

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025
canal bridge

Bydd rhan o'r A472 ym Mhont-y-pŵl ar gau dros nos fis nesaf i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar bont y gamlas.

Bydd y lonydd i gyfeiriad y dwyrain ar gau o slipffordd Rockhill Road a Chylchfan Pont-y-pŵl, rhwng 7pm a 7am ddydd Mawrth 2 Rhagfyr, a bydd y lonydd i gyfeiriad y gorllewin ar gau rhwng Cylchfan Pont-y-pŵl a slipffordd Rockhill Road dros nos ddydd Mercher 3 Rhagfyr.

Bydd y rhan i gyfeiriad y dwyrain hefyd ar gau am chwe noson yn olynol, rhwng dydd Llun 8 Rhagfyr a dydd Sadwrn 13 Rhagfyr, a bydd y rhan i gyfeiriad y gorllewin ar gau dros nos rhwng dydd Sul 14 Rhagfyr a dydd Gwener 19 Rhagfyr.

Bydd dargyfeiriadau ar hyd yr A4042 ac Usk Road. Mae'r gwasanaethau brys a'r cwmnïau bysiau wedi cael gwybod.

Bydd ail gam y gwaith yn digwydd o dan y bont yn y Flwyddyn Newydd. Disgwylir iddo gychwyn ddechrau mis Ionawr a chymryd tua thri mis.

Bydd y gamlas a'r llwybr tynnu ar agor o hyd, er bod y posibilrwydd o darfu rhywfaint.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i gynnal diogelwch y bont. Fodd bynnag, mae'r A472 yn gyswllt hanfodol trwy'r Fwrdeistref felly rydym wedi gofyn i'n contractwyr wneud y gwaith yn y nos er mwyn peidio â tharfu cymaint.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda chydlynydd y Gamlas a Glandŵr Cymru i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i ddefnyddio'r Gamlas pan fydd y cam nesaf yn dechrau. Byddwn hefyd mewn cysylltiad â thrigolion sy'n byw yn agos at y basn."

Mae'r Cyngor yn monitro mwy na 440 cilomedr o ffyrdd a bron i 200 o bontydd, ac yn eu cynnal a chadw, yn rhan o'i Strategaeth Rheoli Asedau Priffyrdd.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025 Nôl i’r Brig